大象传媒

Mesurau cyfansawddCwmpas a milltiroedd y galwyn

Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy鈥檔 cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm鲁, poblogaeth fesul km虏 a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni鈥檔 gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Cwmpas a milltiroedd y galwyn

Mesur arall pwysig yw effeithlonrwydd tanwydd, sef, yn y cyd-destun hwn, pa mor bell y gall cerbyd ei deithio ar swm penodol o danwydd.

Mae鈥檔 aml yn cael ei fesur mewn milltiroedd y galwyn, sy'n cael ei dalfyrru i MYG fel arfer, er bod milltir/galwyn hefyd yn cael ei ddefnyddio鈥檔 aml.

Car wedi'i beintio'n wyrdd i gyd i gynrychioli egni cynhaliol
Image caption,
Mae gan danc ceir newydd sy鈥檔 garedig tuag at yr amgylchedd gynhwysedd MYG mawr. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu teithio ymhellach ar yr un faint o danwydd. LLUN: Henrik Sorensen

Dyma dair ffurf ar yr hafaliad:

\(\text{effeithlonrwydd tanwydd}=\frac{\text{pellter a deithiwyd}}{\text{tanwydd a ddefnyddiwyd}}\)

\(\text{tanwydd a ddefnyddiwyd}=\frac{\text{pellter a deithiwyd}}{\text{effeithlonrwydd tanwydd}}\)

\(\text{pellter a deithiwyd}=\text{effeithlonrwydd tanwydd}\times\text{tanwydd a ddefnyddiwyd}\)

Weithiau gellir mynegi鈥檙 hafaliad effeithlonrwydd tanwydd fel:

\(\text{effeithlonrwydd~tanwydd}=\frac{\text{cwmpas}}{\text{cynhwysedd~tanwydd}}\)

A gellir ei ad-drefnu i:

\(\text{cynhwysedd~tanwydd}=\frac{\text{cwmpas}}{\text{effeithlonrwydd~tanwydd}}\)

Neu i gyfrifo鈥檙 cwmpas:

\(\text{cwmpas}=\text{cynhwysedd~tanwydd}\times\text{effeithlonrwydd~tanwydd}\)

Question

Mae Michelle wedi dod o hyd i鈥檙 wybodaeth ganlynol am gar hybrid yr hoffai hi ei brynu ond ni all weld faint o betrol mae鈥檙 tanc tanwydd yn ei ddal. Cyfrifa gynhwysedd mwyaf posib y tanc.

Arwydd yn dangos nifer y filltiroedd i鈥檙 galwyn am gyfer y ddinas a鈥檙 ffordd fawr