Ffyrdd eraill y gwnaeth Prydain baratoi ar gyfer rhyfel
Radar
Roedd hyn yn gwbl allweddol er mwyn amddiffyn y dinasoedd a鈥檜 pobl rhag y bomwyr o鈥檙 Almaen. Y cynllun oedd canfod yr awyrennau drwy ddefnyddio tonfeddi radio, ac roedd hynny yn galluogi i鈥檙 lluoedd amddiffynnol frwydro yn erbyn awyrennau鈥檙 LuftwaffeAwyrlu鈥檙 Almaen..
Balwnau amddiffyn a gynau gwrthawyrennol
Gosodwyd balwnau amddiffyn uwchben Llundain er mwyn ceisio atal bomwyr Yr Almaen rhag dod i mewn yn rhy isel, ac roedd hynny wedi lleihau llwyddiant eu hymgyrchoedd bomio. Erbyn Awst 1940, roedd 2,368 o falwnau amddiffyn yn hedfan dros safleoedd strategol pwysig ledled Prydain.
Hefyd, adeiladwyd gynau gwrthawyrennol er mwyn ceisio cyfyngu ar y difrod y gallai bomwyr Yr Almaen ei achosi.
Gwarchodlu Cartref
Daeth yn amlwg bod Prydain mewn perygl gwirioneddol o gael ei goresgyn gan luoedd grymus yr Almaen. Roedd hynny hyd yn oed yn fwy amlwg ar 么l cymaint o fuddugoliaethau cynnar i鈥檙 Nats茂aid ac ymgiliad Dunkirk yn 1940.
Roedd y Gwarchodlu Cartref (Home Guard) yn wirfoddolwyr oedd wedi eu harfogi a鈥檜 hyfforddi i amddiffyn trefi a dinasoedd Prydain petai lluoedd yr Almaen yn glanio鈥檔 llwyddiannus. Roedd yn weithredol o 1940 i 1944 ac roedd yn cynnwys 1.5 miliwn o wirfoddolwyr lleol.
Consgripsiwn
Oherwydd niferoedd isel y lluoedd arfog, cyflwynwyd consgripsiwn er mwyn gallu ymdopi 芒 galwadau rhyfel. Roedd Deddf Hyfforddiant Milwrol mis Ebrill 1939 yn ei gwneud yn orfodol i ddynion rhwng 20 a 22 oed ymuno 芒鈥檙 lluoedd arfog. Ym Medi 1939 roedd y Ddeddf Gwasanaeth Gwladol yn ei gwneud yn orfodol i ddynion rhwng 18 a 41 oed ymuno.
Erbyn diwedd 1939, roedd 1.5 miliwn o ddynion wedi ymuno 芒 lluoedd arfog Prydain.
O blith y niferoedd hynny, roedd dros 1.1 miliwn wedi ymuno 芒 Byddin Prydain a rhannwyd y gweddill rhwng y Llynges Frenhinol a'r Awyrlu Brenhinol.
Gyrfaoedd neilltuedig
Roedd yn hanfodol sicrhau bod gweithwyr o rai galwedigaethau yn rhydd i barhau 芒鈥檜 gwaith, yn arbennig petai hynny yn golygu helpu ymgyrch y rhyfel.
Gan ddysgu o wersi'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1938 lluniwyd Rhestr o Yrfaoedd Neilltuedig, oedd yn eithrio gweithwyr 芒 sgiliau penodol rhag y consgripsiwn
Roedd hynny鈥檔 cynnwys 5 miliwn o ddynion mewn ystod eang o swyddi. Roedd hynny鈥檔 cynnwys peirianyddion, gweithwyr rheilffyrdd a dociau, glowyr, ffermwyr, gweithwyr amaethyddol, athrawon a meddygon.