Brecht heddiw
Mae dram芒u Brecht yn parhau i fod yn boblogaidd iawn heddiw ac mae ei waith wedi dylanwadu ar lawer o ymarferwyr. Os bydd angen i ti adolygu perfformiad Brechtaidd, ni fydd yn wahanol iawn i unrhyw adolygiad arall, ond bydd gen ti ddiddordeb gweld pa mor effeithiol mae'r perfformwyr wedi bodloni disgwyliadau'r sgript. Fel awdur gwleidyddol, mae'n si诺r y byddai Brecht wedi disgwyl i gynhyrchiad modern fynd i'r afael 芒 materion cyfoes a pharhau i fod yn driw i'w ddelfrydau ar yr un pryd.
Dylet ti geisio cael gafael ar raglen er mwyn i ti allu astudio nodiadau'r cyfarwyddwr. Bydd hyn o gymorth i ti ddeall pa faterion roedden nhw'n ceisio eu portreadu yn y cynhyrchiad a sut yr aethon nhw ati. Darllena Ysgrifennu a gwerthuso theatr i ddysgu mwy.
Mae rhai beirniaid wedi cyhuddo Brecht o 'ddwyn' fel yr esbonia'r beirniad theatr Michael Billington:
Serch hynny mae cyfarwyddwyr ac awduron yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o ddehongli ei waith o'r newydd. Mae'r detholiad hwn o raglen 大象传媒 Radio 3 Night Waves yn cynnwys y dramodydd Mark Ravenhill yn siarad am gyfieithu drama Bertolt Brecht, Leben des Galilei (Bywyd Galileo yn Gymraeg), i'r Royal Shakespeare Company. Mae hefyd yn trafod pam mae Brecht yn parhau i fod yn berthnasol i theatr fodern.