Pam mae Brecht mor bwysig?
Roedd Bertolt Brecht yn ymarferwr theatr a lluniodd a siapiodd theatr mewn ffordd a gafodd effaith enfawr ar ei datblygiad. Roedd llawer o鈥檌 syniadau mor chwyldroadol fel eu bod wedi newid byd y theatr am byth. Mae dyled fawr gan y theatr fodern i鈥檞 ddulliau.
Pan oedd theatr naturiolaiddMath o theatr sydd wedi ei chynllunio i greu rhith realiti ar gyfer y gynulleidfa. Dechreuodd tua diwedd y 19eg ganrif. yn ei hanterth ac yn gweithredu fel drych i鈥檙 hyn oedd yn digwydd mewn cymdeithas, penderfynodd ei defnyddio fel grym i newid pethau. Roedd am wneud i鈥檞 gynulleidfa feddwl. Un peth nodedig a ddywedodd oedd bod cynulleidfaoedd theatrig ar y pryd yn "hongian eu hymennydd gyda鈥檜 hetiau yn yr ystafell gotiau".
Mewn theatr naturiolaidd neu ddramatig mae鈥檙 gynulleidfa yn malio am fywydau鈥檙 cymeriadau ar y llwyfan. Maen nhw鈥檔 anghofio eu bywydau eu hunain am gyfnod ac yn dianc i fywydau pobl eraill. Pan fydd cynulleidfa鈥檔 cr茂o dros gymeriad neu鈥檔 teimlo emosiwn drwy鈥檙 digwyddiadau ar y llwyfan, yr enw ar hyn ydy catharsis.
Roedd Brecht yn gwrthwynebu theatr gathartig. Pan fyddai aelodau鈥檙 gynulleidfa鈥檔 credu yn yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan ac yn uniaethu鈥檔 emosiynol, roedd yn credu eu bod yn colli鈥檙 gallu i feddwl a beirniadu. Roedd am i鈥檞 gynulleidfaoedd aros yn wrthrychol a pheidio ag uniaethu鈥檔 emosiynol. Yna gallen nhw ddod i farn ystyriol a rhesymol am unrhyw sylwadau neu gwestiynau cymdeithasol yn ei waith. I gyflawni hyn byddai鈥檔 defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau neu dechnegau theatrig er mwyn atgoffa cynulleidfaoedd drwy鈥檙 perfformiad eu bod yn gwylio theatr; cyflwyniad o fywyd, nid bywyd go iawn. Yr enw ar ei fath ef o theatr ydy Theatr Epig. Roedd yn galw鈥檙 ddyfais o bellhau鈥檙 gynulleidfa rhag uniaethu鈥檔 emosiynol yn verfremdungseffekt.