Bertolt Brecht – crynodeb o'i dechnegau
Adrodd y stori
Mae adrodd y stori’n cael ei ddefnyddio i atgoffa’r gynulleidfa mai cyflwyniad o stori y maen nhw’n ei wylio. Ambell waith bydd yr adroddwr yn dweud wrthon ni beth sy’n mynd i ddigwydd yn y stori cyn iddo ddigwydd. Mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr nad ydyn ni’n ymroi’n emosiynol i’r digwyddiadau sydd i ddod gan ein bod ni eisoes yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.
Dod allan o’r rhan/adrodd stori trydydd person
Mae gwneud sylwadau am gymeriad fel actor yn ffordd glir o atgoffa’r gynulleidfa ei bod yn y theatr. Er enghraifft, hanner ffordd drwy olygfa ddramatig efallai y bydd saib er mwyn i’r actor wneud sylw ar ei gymeriad yn y trydydd person, Roedd Osian yn teimlo’i hun yn mynd yn ddig. Doedd neb yn gwrando arno ac roedd am ddial
, cyn dychwelyd i’r olygfa.
Adrodd y cyfarwyddiadau llwyfan
Byddai Brecht yn defnyddio’r ddyfais hon yn fwy aml wrth ymarfer nag yn ystod perfformiad. Mae’n helpu i bellhau’r actor oddi wrth y cymeriad mae’n ei chwarae. Mae hefyd yn atgoffa’r gynulleidfa eu bod yn gwylio drama ac yn eu gorfodi i astudio gweithredoedd cymeriad yn fanwl wrthrychol.
Siarad yn uniongyrchol
Mae siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa yn torri’r bedwaredd wal ac yn dinistrio unrhyw rith o realaeth. Enghraifft o hyn ydy pan welir Grusha yn pledio i achub y babi, Michael yn Y Cylch Sialc, cyfieithiad o Der kaukasische Kreidekreis gan Brecht: Fe wnes i ei fagu, oes rhaid i mi ei rwygo'n ddarnau? Alla i ddim
.
Defnyddio placardiau
Arwydd neu ddarn o wybodaeth ysgrifenedig ychwanegol sy’n cael ei gyflwyno ar y llwyfan ydy placard. Gallai defnyddio placardiau fod mor syml â dal cerdyn neu faner, neu mae’n bosib defnyddio amlgyfryngau, a hyd yn oed sioe sleidiau PowerPoint. Roedd y ddrama gerdd, Miss Saigon, er enghraifft, yn defnyddio sioe sleidiau i ddangos y bywydau a gollwyd yn Rhyfel Fietnam, ac roedd yn effeithiol tu hwnt. Y peth pwysig ydy bod yr wybodaeth yn gwneud mwy na gwneud sylwadau ar yr olygfa’n unig, gan ei dwysáu neu ei datblygu.
Er enghraifft, mae pâr priod yn dadlau ac mae’r wraig yn ofidus iawn. Os byddai’r actor sy’n portreadu’r wraig yn dal placard gyda ‘rwyf i’n ddiflas’ arno, fyddai hynny ddim yn dweud dim wrthym ni am y cymeriad nad oedden ni’n ei wybod yn barod. Ond os byddai ei phlacard yn dweud ‘rwy’n cael affêr’ neu ‘dwi ddim wedi ei garu fe erioed’, byddai'r gynulleidfa’n cael eu gorfodi i ystyried agweddau eraill ar eu perthynas a meddwl am resymau dyfnach y tu ôl i’w dagrau.