Llwyfannu Brechtaidd - parhad
Mae canu a dawnsio鈥檔 ffyrdd da o sicrhau bod y gynulleidfa鈥檔 gweld y 'theatr' ac yn cael ei hatgoffa 辞鈥檙 ffaith ei bod yn gwylio drama. Yn aml mewn theatr Frechtaidd mae鈥檙 gerddoriaeth a鈥檙 geiriau鈥檔 gwrthdaro, a dydyn nhw ddim yn cyd-fynd o ran arddull. Mae hyn yn pellhau鈥檙 gynulleidfa ymhellach.
Mae鈥檔 werth gwrando ar y g芒n Mack the Knife 辞鈥檙 Opera Pishyn Tair, cyfieithiad o Die Dreigroschenoper gan Brecht a Kurt Weill. Sylwch sut mae鈥檙 trefniant cerddorol a鈥檙 alaw yn ysgafn a llon ond bod y geiriau鈥檔 sinistr a thywyll. Mae hwn yn ddull nodweddiadol Frechtaidd. Mae un o linellau mwyaf enwog y gwaith hwn yn dal i apelio at gynulleidfa gyfoes: Pwy yw鈥檙 troseddwr mwyaf: y sawl sy鈥檔 dwyn o fanc neu'r sawl sy鈥檔 sefydlu un?
Montage
Nid cyd-ddigwyddiad ydy hi fod montageTechneg 辞鈥檙 byd ffilmiau lle mae darnau o ffilmiau gwahanol yn cael eu dewis, eu golygu a'u gosod at ei gilydd i greu cyfanwaith. yn derm y bydden ni鈥檔 ei gysylltu鈥檔 bennaf 芒 sinema. Aeth Brecht ati鈥檔 ymwybodol i fenthyg y syniad o faes ffilmiau di-sain. Cyfres o olygfeydd byr annibynnol ydy montage, wedi eu grwpio鈥檔 union ar 么l ei gilydd ac mae鈥檙 ffordd maen nhw wedi eu cyfosod neu鈥檔 cyferbynnu yn tynnu sylw at y pynciau pwysig yn gwbl glir. Mae鈥檙 syniad hwn o olygfeydd ar wah芒n hefyd yn caniat谩u canolbwyntio ar fanylion bach os ydy sefyllfa鈥檙 ddrama鈥檔 gofyn am hynny. Dylanwad mawr ar Brecht oedd y ffordd y dangosodd y cyfarwyddwr ffilm, Eisenstein rym montage yn y dilyniant Grisiau Odessa yn ei ffilm Battleship Potemkin ym 1925. Yn y dilyniant enwog sy鈥檔 cynnwys coets baban yn rhedeg yn rhydd mae Eisenstein yn defnyddio montage i ennyn emosiwn a thyndra yng ngwylwyr y ffilm.