大象传媒

Toccata a Ffiwg yn D leiaf

Mae nifer o unigolion a grwpiau wedi perfformio fersiynau o waith J S Bach, Toccata a Ffiwg yn D leiaf, gan gyfuno鈥檙 darn gwreiddiol ag arddulliau cerddorol gwahanol.

Mae modd clywed y darn gwreiddiol gan Bach fan hyn:

Darn o 'Toccata a Ffiwg yn D leiaf鈥 ar gyfer yr organ gan J S Bach

Jacques Loussier - jazz

Mae un fersiwn o Toccata a Ffiwg yn D leiaf gan Bach wedi鈥檌 greu gan Jacques Loussier, pianydd a chyfansoddwr o Ffrainc a oedd yn enwog am ei drefniadau jazz o nifer o gyfansoddiadau Bach.

Yn 1959, ffurfiodd driawd gyda Christian Garros ar y drymiau a Pierre Michelot ar y bas dwbl, a chafodd yr ensemble lwyddiant mawr yn ystod yr 1960au a鈥檙 70au. Mae arddull Loussier yn cael ei disgrifio fel 鈥榯rydydd ffrwd鈥, sy鈥檔 gyfuniad o jazz a cherddoriaeth glasurol, ac mae hefyd yn cynnwys chwarae鈥檔 fyrfyfyr.

Ym mherfformiad yr ensemble o Toccata a Ffiwg, mae鈥檙 bas dwbl yn chwarae鈥檔 fyrfyfyr gan ddefnyddio pizzicato i addurno鈥檙 alaw wreiddiol, tra bo鈥檙 drymiwr yn chwarae gyda brwshys yn ogystal 芒 ffyn, fel sy鈥檔 gyffredin mewn triawdau jazz, ac mae鈥檔 defnyddio llawer ar y symbalau. Mae鈥檙 piano yn chwarae cyfuniad o鈥檙 nodiant gwreiddiol a threfniad trawsacennog ohono.

Jacques Loussier a鈥檌 driawd yn perfformio fersiwn jazz o 'Toccata a Ffiwg' gan Bach

Craig Pruess - ffync

Mae鈥檙 cyfansoddwr o America, Craig Pruess, yn un arall sydd wedi creu trefniant o Toccata a Ffiwg Bach. Mae ei drefniant o 1977 yn cyfuno cerddoriaeth far贸c a ffync, a chafodd ei ysgrifennu ar gyfer syntheseiddwyr, cit drymiau, git芒r fas, git芒r drydan ac adran gyrn.

Vanessa-Mae - electro-roc

Recordiodd Vanessa-Mae, y feiolinydd o Brydain, hefyd fersiwn o Toccata a Ffiwg, gan gyfuno鈥檙 arddull far贸c ag arddull electro-roc. Yn y darn hwn, mae hi鈥檔 ychwanegu gwasgiadau dwbl, wythfedau a thrilau i greu sain mwy, ac mae hi鈥檔 newid y rhythmau drwy ychwanegu nodau dot. Yn y perfformiad isod, mae band roc ynghyd 芒 nifer o chwaraewyr llinynnau eraill yn ymuno 芒 Vanessa-Mae, gyda dawnswyr yn ychwanegu coreograffi.

Vanessa-Mae yn cyfuno cerddoriaeth far贸c ac electro-roc i berfformio ei fersiwn unigryw hi o 'Toccata a Ffiwg yn D leiaf' ar TOTP

More guides on this topic