Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.
Mae hyn yn ymdrin ag amser, nid dy gyflymder naturiol di wrth symud, er bod angen i ti fod yn ymwybodol o hyn. Dadansodda a wyt ti鈥檔 unionsyth (yn y presennol), a wyt ti鈥檔 gwyro鈥檔 么l ychydig (yn y gorffennol) neu鈥檔 pwyso ymlaen (tuag at y dyfodol).
Mae ongl ein cerddediad yn cyfleu llawer yn ddi-eiriau. Mae pobl y 鈥榩resennol鈥 yn tueddu i fod yn byw yn y presennol ac yn ymwybodol o鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd o鈥檜 cwmpas. Gallai gwyro鈥檔 么l i鈥檙 gorffennol ddangos dy fod yn dal rhywbeth yn 么l neu fod rhywfaint o ymwahanu oddi wrth ddigwyddiadau ac emosiynau. Mae person sy鈥檔 pwyso ymlaen yn tueddu i fod yn fywiog ac yn benderfynol ond efallai nad ydy bob amser yn canolbwyntio ar y sefyllfa bresennol.
Nawr meddylia am y cymeriad rwyt ti鈥檔 ei ddatblygu. Ydy鈥檙 cymeriad yn wahanol i ti yn nhermau pwysau, gofod neu amser? Efallai y dylai fod yn ysgafndroed iawn gan bwyso ymlaen, tra dy fod ti鈥檔 tueddu i fod yn arafach a dal yn 么l.
Arbrofa gyda ffyrdd gwahanol o ddefnyddio pwysau, gofod ac amser. Bydd y rhain yn teimlo鈥檔 ddieithr i ti ar y dechrau, ond bydd dadansoddi symudiad yn fanwl fel hyn ac arbrofi yn dy helpu i ganfod osgo corfforol sy鈥檔 briodol i dy gymeriad.