Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.
Mae鈥檙 ymarfer hwn yn dy helpu i fod yn ymwybodol o faint rwyt ti鈥檔 ei wneud pan fyddi di鈥檔 meddwl nad wyt ti鈥檔 gwneud dim byd o gwbl!
Gan weithio naill ai gyda phartner neu mewn gr诺p mewn cylch, dylet sefyll lle鈥檙 wyt ti鈥檔 gallu cadw cyswllt llygad mewn ffordd ddigon hamddenol, ond paid 芒 gwneud dim byd. Paid 芒 cheisio bod yn gerflun neu鈥檔 anhyblyg, ond ymlacia a sefyll yn agored, gan wylio dy bartner neu aelodau eraill y gr诺p. Pan weli di unrhyw symudiad gan rywun arall, efelycha hyn. Efallai mai symud pwysau fydd hyn, neu rwbio trwyn, fflicio bys neu symud y pen. Os ydych chi i gyd yn ymwybodol o鈥檆h gilydd yna bydd y symudiad yn lledaenu. Ceisia sylwi ar unrhyw beth wnest ti ei ddechrau a bydd yn barod i roi adborth ar yr hyn rwyt ti wedi sylwi bod pobl eraill yn ei wneud. Paid 芒 gorfodi unrhyw symudiadau neu fydd yr ymarfer ddim yn ddilys.
Oes gen ti unrhyw nodweddion penodol, waeth pa mor fach, nad wyt ti鈥檔 ymwybodol ohonyn nhw? Beth dynnodd pobl eraill sylw ato? Rhanna鈥檙 hyn rwyt ti wedi ei ddysgu.