Datblygu cymeriadauGwaith byrfyfyr a gweld dy gymeriad
Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.
Rho gynnig ar gwaith byrfyfyrDyfeisio, neu greu gwaith wrth i ti fynd yn dy flaen. yn dy r么l mewn amrywiaeth o senarios gwahanol. Os byddi di鈥檔 defnyddio sgript, dewisa leoliadau neu ddigwyddiadau y tu hwnt i鈥檙 ddrama. Dysga sut mae dy gymeriad yn ymateb mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol. Arbrofa, gan ddadansoddi drwy鈥檙 amser pa ymatebion, symudiadau, ystumiau a nodweddion lleisiol sy鈥檔 gweithio i ti.
Gweld dy gymeriad
Mae hon yn dechneg ddefnyddiol. Dylet sefyll gyda dy lygaid ar gau a 鈥榞weld鈥 y person rwyt ti鈥檔 ei chwarae o dy flaen. Dychmyga鈥檙 cymeriad yn dy feddwl. Edrycha ar y ffordd mae鈥檔 sefyll, y mynegiant ar ei wyneb, unrhyw ystumiau, beth mae鈥檔 ei wisgo. Dychmyga glywed y cymeriad yn siarad. Pan fydd gen ti ddelwedd glir o dy gymeriad cymer gam ymlaen a 鈥榙roi鈥 dy hun i鈥檙 hyn rwyt ti wedi ei ddychmygu.
Dy gymeriad fel anifail
Pe bai dy gymeriad di鈥檔 anifail neu鈥檔 aderyn, beth fyddai? Arbrofa gyda nodweddion anifail yn dy gorff a dy lais. Ceisia fod 100% yn anifail ac yna newid yn 么l yn raddol i fod yn berson, gyda 10% o鈥檙 anifail yn bresennol yn dy actio. Efallai y gwnei di ganfod ystumiau a nodweddion sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda ac y gallet ti eu cynnwys wrth gymeriadu.