Chwilio am ysbrydoliaeth
Ydy鈥檙 cymeriad yn debyg i rywun rwyt ti鈥檔 ei adnabod neu wyt ti鈥檔 gallu cael ysbrydoliaeth o rywle arall? Os oes actorion eraill wedi chwarae r么l debyg, edrycha鈥檔 ofalus ar sut aethon nhw ati. Mae鈥檔 syniad da cael gweledigaeth glir yn dy feddwl o鈥檙 hyn rwyt ti am ei gyflawni. Ambell waith mae hyd yn oed llun o sut wyt ti鈥檔 meddwl mae鈥檙 cymeriad yn edrych yn gallu helpu.
Cymhellion ac amcanion y cymeriad
Cymhelliad dy gymeriad ydy鈥檙 hyn sy鈥檔 ei yrru neu鈥檙 hyn yr hoffai ei gyflawni. Er enghraifft, gallai cymeriad ymddwyn mewn ffordd blentynnaidd neu ddadleugar ond y cymhelliad cyffredinol ydy cael sylw. Wrth ddatblygu cymeriad dylet ti ystyried beth ydy cymhelliad y cymeriad hwnnw ym mhob golygfa. Oes un elfen gyffredinol yn gyrru鈥檙 cymeriad? Os felly beth ydy ei amcanion drwy鈥檙 gwaith? Meddylia sut mae鈥檔 ymddwyn er mwyn cael yr hyn mae鈥檔 ei ddymuno. Bydd deall dy gymhelliad yn dda ar bob pwynt yn dy helpu i ganfod sut i ddefnyddio dy lais a dy gorff i gyfleu dy gymeriad yn effeithiol ynghyd 芒 thaith y cymeriad drwy鈥檙 ddrama.
O fewn golygfa gall y cymeriad fod 芒 nifer o nodau llai, sy鈥檔 cael eu galw鈥檔 amcanion. I wneud hyn yn iawn bydd angen i ti wneud ychydig o ymchwil i鈥檙 cefndir, megis darllen y ddrama, neu darllen am gefndir dy gymeriad os byddi di鈥檔 perfformio darn dyfeisiedig.
Mae鈥檙 clip Saesneg hwn yn dangos aelodau o d卯m cynhyrchu Doctor Who yn trafod cymeriadaeth yn y gyfres.