大象传媒

Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenCefndir a chyd-destun

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin 芒 Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 eu hwynebu yng Nghymru.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Daw鈥檙 gerdd hon o gyfrol enwog Gerallt Lloyd Owen, Cerddi'r Cywilydd. Cefndir cerddi鈥檙 gyfrol wladgarol hon oedd arwisgo鈥檙 Tywysog Siarl yng Nghaernarfon yn 1969. Bu鈥檙 ffaith i鈥檙 digwyddiad gael ei gynnal yng Nghaernarfon yn achos dadlau mawr. Rhwygwyd y genedl yn gefnogwyr a gredai bod cynnal y digwyddiad yng Nghaernarfon yn fraint ac yn rhoi statws i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac yn wrthwynebwyr a gredai mai sarhad oedd y digwyddiad a phrawf o b诺er Seisnig dros Gymru.

Beirniadaeth Gerallt Lloyd Owen o natur groesawgar rhai Cymry i鈥檙 digwyddiad yw鈥檙 cyfeiriad at 鈥榞ywilydd鈥 yn nheitl y gyfrol. Cerdd ag iddi naws genedlaetholgar yw Etifeddiaeth. Mae hi鈥檔 gerdd enwog dros ben a chaiff ei chwpled clo ei ddyfynnu鈥檔 gyson.

Dyfyniad o'r gerdd 'Etifeddiaeth' gan Gerallt Lloyd Owen.

Ceir cyfeiriad at hanes Tryweryn yn y geiriau 鈥渓le nad oedd llyn.鈥

Mae anfodlonrwydd y bardd yn amlwg yma o鈥檙 ffaith i鈥檙 ardal gael ei boddi i gyflenwi d诺r i Lerpwl. Mae鈥檙 bardd yn teimlo mai tystiolaeth o b诺er Seisnig dros Gymru oedd y weithred hon.

Credai鈥檙 awdur a鈥檙 athronydd John Robert Jones fod iaith, tir a thraddodiad diwylliannol yn hanfodol ar gyfer parhad cenedl. Poeni y mae Gerallt Lloyd Owen yn y gerdd hon ein bod yn colli golwg ar y gwerthoedd hyn.