Neges ac agwedd y bardd
Cafodd Gerallt Lloyd Owen ei cynddeiriogiGwneud i rywun wylltio neu fod yn flin/grac iawn. gan arwisgiadSeremoni er mwyn rhoi teitl i rywun, ee Tywysog Cymru. y Tywysog Siarl yng Nghaernarfon ac mae ei dicterBlin, wedi鈥檌 gythruddo. yn cael ei fynegi yn y gerdd hon. Mae naws ramantaidd ac ymdeimlad o gariad y bardd at ei wlad yn y gynghanedd lusg sy鈥檔 agor y gerdd:
鈥淐awsom wlad i鈥檞 chad飞鈥
Yn y defnydd o鈥檙 ferf 鈥榗awsom鈥 gwelwn mor ffodus yr ydyn ni ac mae鈥檔 creu ymdeimlad o ddyletswydd i warchod yr hyn rydyn ni wedi ei gael. Mae鈥檙 bardd yn talu teyrnged i鈥檙 genhedlaeth gynt am ein hetifeddiaeth trwy ailadrodd y ffaith ein bod ni wedi cael cymaint:
Cawsom wlad...
Cawsom genedl...
A chawsom iaith...
Yna, mae Gerallt Lloyd Owen yn mynd ymlaen i godi cywilydd ar y darllenydd gan ddweud beth yr ydyn ni wedi ei wneud 芒鈥檙 pethau a gawsom,
Troesom ein tir yn simneiau t芒n...
Troesom ein cenedl i genhedlu estroniaid...
A throesom iaith yr oesau / yn iaith ein cywilydd ni.
Wrth adeiladu at uchafbwynt yn y cwpled hwn mae ei feirniadaeth ohonom ni, y Cymry, yn amlwg. Serch hynny, sylwa ei fod yn defnyddio person cyntaf lluosog y ferf bob tro, 鈥淐awsom鈥, 鈥淭roesom鈥 ac 鈥渆in bod.鈥 Mae hyn yn cadarnhau鈥檙 ffaith nad pwyntio bys at bobl eraill yn unig a wna鈥檙 bardd; mae鈥檔 cynnwys ei hun yn ei feirniadaeth.
Trwy gyfrwng y trosiad 鈥済wymon o ddynion鈥 mae鈥檔 llwyddo i gyfleu pa mor anwadalRhywbeth neu rywun sydd yn annibynadwy. a di-asgwrn-cefn yr ydyn ni fel cenedl. Awgrymu ein bod yn cael ein tynnu bob ffordd gan y llif a鈥檔 bod bellach yn genhedlaeth heb wreiddiau yw hyn.
Daw neges y bardd yn glir yn y cwpled clo trawiadol:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl, / a鈥檌 hedd yw ei hangau hi.
moeswersGwers ag iddi neges foesol. sydd yma mewn gwirionedd ac mae defnydd y bardd o gynghanedd groes yn llinell gyntaf y cwpled yn rhoi ergyd i鈥檙 dweud. Mae tristwch y bardd yn amlygu ei hun am ei fod yn credu ein bod yn cefnu ar ein hetifeddiaeth. Creda ein bod yn dibrisio ein gwlad trwy geisio gwella a thyfu o hyd. Ni ddylai ein hawydd i ddatblygu olygu ein bod yn aberthu ein hetifeddiaeth. Dylem ymfalch茂o yn yr hyn sydd eisoes gennym, sef 鈥淸g]wlad鈥, 鈥淸c]enedl鈥 ac 鈥渋aith.鈥 Mae鈥檔 mynd yn ei flaen i鈥檔 rhybuddio gydag amwysedd craff yn y llinell glo:
a鈥檌 hedd yw ei hangau hi.
Gall yr 鈥渉edd鈥 hwn olygu tawelwch, yn yr ystyr os na ddefnyddiwn y Gymraeg, bydd hi鈥檔 marw. Yn ogystal, gall yr 鈥渉edd鈥 olygu heddwch, hynny yw, os na frwydrwn dros yr hyn a 鈥済awsom鈥 yna fe fyddwn yn eu colli am byth.
More guides on this topic
- Ofn gan Hywel Griffiths
- Y Coed gan Gwenallt
- Walkers' Wood gan Myrddin ap Dafydd
- Tai Unnos gan Iwan Llwyd
- Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis
- Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
- Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
- Eifionydd gan R Williams Parry
- Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
- Cymharu dwy gerdd
- Nodweddion arddull
- Y mesurau caeth
- Y mesurau rhydd