大象传媒

Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen罢丑别尘芒耻

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin 芒 Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 eu hwynebu yng Nghymru.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

罢丑别尘芒耻

Mae cariad at wlad yn thema amlwg yng ngwaith nifer o feirdd Cymru, yn enwedig Gerallt Lloyd Owen. Mae鈥檔 dangos parch at draddodiadau ac at ein cyndeidiau a frwydrodd dros yr hyn sydd gennym heddiw yn y geiriau:

darn o dir yn dyst / ein bod wedi mynnu byw.

Mae'r bardd yn talu teyrnged bellach i bobl Cymru trwy ddweud wrthon ni 鈥渁nadlu ein hanes ni ein hunain.鈥 Gan dynnu sylw at ei phwysigrwydd a鈥檌 ph诺er, mae鈥檔 llwyddo i ddangos ei barch tuag at yr iaith Gymraeg gyda'r geiriau:

oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes, / a鈥檌 grym anniddig ar y mynyddoedd

a thrwy gyfeirio ati fel:

iaith yr oesau.

Yna, mae鈥檔 cyferbynnu'r parch hwn 芒 diffyg parch y Cymry heddiw tuag at yr iaith yn y geiriau:

er na cheisiem hi.

Mae鈥檔 beirniadu ein bod yn genedl anniolchgar sy鈥檔 troi:

... iaith yr oesau, / yn iaith ein cywilydd ni.

Mae newid a chynnydd yn them芒u canolog i鈥檙 gerdd hefyd. Ceir awgrym ein bod yn colli golwg ar werth ein hetifeddiaeth, trwy geisio gwella a datblygu o hyd. Gobaith Gerallt Lloyd Owen yw bod lle i鈥檙 Gymraeg yn y Gymru fodern.

Question

Yn Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen a鈥檙 gerdd Colli Iaith gan Harri Webb (Fesul Gair) mae鈥檙 beirdd yn s么n am Gymru. Sut mae鈥檙 ddau fardd yn cyfleu eu syniadau yn y cerddi?