Hafaliadau sy鈥檔 cynnwys cromfachau
Enghraifft
Ehanga鈥檙 cromfachau: \({2}({3a} + {5})\)
Lluosa bopeth y tu mewn i鈥檙 cromfachau 芒鈥檙 rhif sydd y tu allan i roi:
\(({2}\times{3a})+({2}\times{5})\)
Symleiddia hyn i:
\({6a} + {10}\)
Dyma enghraifft arall:
Ehanga \({-3}({2b} - {4})\).
Lluosa bopeth y tu mewn i鈥檙 cromfachau 芒鈥檙 rhif sydd y tu allan i roi:
\({-3}\times{2b} + {-3}\times{-4}\)
Symleiddia hyn i:
\({-6b} + {12}\)
Question
Datrysa鈥檙 hafaliad \({3}({5x} - {4}) = {2}({2x} + {5})\).
Yn gyntaf, ehanga鈥檙 cromfachau:
\({15x} - {12} = {4x} + {10}\)
Tynna \({4x}\) o鈥檙 ddwy ochr:
\({11x} - {12} = {10}\)
Adia \({12}\) at y ddwy ochr:
\({11x} = {22}\)
Rhanna ag \({11}\) i roi:
\({x} = {2}\)