Y ffurf x = c ac y = c
Mae gan graffiau o鈥檙 math hwn linell syth naill ai鈥檔 llorweddol neu鈥檔 fertigol.
Enghraifft \({y} = {c}\)
Mae gan bob pwynt ar y llinell hon gyfesuryn \({y}\) sy鈥檔 \({4}\) felly gelli di ddweud mai hafaliad y llinell ydy \({y} = {4}\).
Enghraifft \({x} = {c}\)
Mae gan bob pwynt ar y llinell hon gyfesuryn \({x}\) sy鈥檔 \({7}\) felly gelli di ddweud mai hafaliad y llinell ydy \({x} = {7}\).
Ar gyfer pob graff llinell fertigol mae hafaliad ar ffurf \({x} = {c}\)
ee \({x} = {1}\), \({x} = {-3}\), \({x} = {4}\), ayyb.
Ar gyfer pob graff llinell lorweddol mae hafaliad ar ffurf \({y}={c}\)
ee \({y} = {3}\), \({y} = {-2}\), \({y} = {1}\), ayyb.
Os nad wyt ti鈥檔 gallu cofio os ydy hafaliad y llinell ar ffurf \({x} = ...\) ynteu \({y} = ...\), canfydda gyfesurynnau o leiaf ddau bwynt ar y llinell.
Os ydy鈥檙 cyfesurynnau \({x}\) yr un fath, hafaliad y llinell fydd \({x} = ...\)
Os ydy鈥檙 cyfesurynnau \({y}\) yr un fath, hafaliad y llinell fydd \({y} = ...\)