Elfennau, cyfansoddion a chymysgeddau
Elfen
- Sylwedd pur sydd wedi鈥檌 restru yn y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o鈥檙 holl elfennau rydyn ni鈥檔 gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae鈥檙 holl nwyon nobl i鈥檞 gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol. ac yn cynnwys un math o atom yn unig.
- Mae dros 100 o elfennau.
- Metelau yw鈥檙 rhan fwyaf, mae rhai鈥檔 feteloidau neu led-fetelau, ac mae鈥檙 gweddill yn anfetelau.
Cyfansoddyn
- Sylwedd pur sydd wedi鈥檌 wneud o fwy nag un math o elfen wedi bondio鈥檔 gemegol 芒鈥檌 gilydd.
- Mae elfennau鈥檔 bondio mewn cymarebau penodol, felly gallwn ni eu cynrychioli nhw 芒 fformiwla gemegol. Er enghraifft, mae gan sodiwm clorid yr un nifer o 茂onau sodiwm ac 茂onau clorid, felly ei fformiwla yw NaCl, ond mae d诺r bob amser yn cynnwys dwywaith cymaint o atomau hydrogen ag atomau ocsigen, felly ei fformiwla yw H2O.
Cymysgedd
- Sylwedd amhur sydd wedi鈥檌 wneud o wahanol elfennau neu gyfansoddion wedi eu cymysgu 芒鈥檌 gilydd ond sydd heb eu huno yn gemegol.
- Fel arfer, gallwn ni ddefnyddio technegau ffisegol, fel hidloY broses o basio cymysgedd drwy hidlydd fel papur hidlo 鈥 mae sylweddau hydawdd yn pasio drwy鈥檙 hidlydd fel hidlif, ond mae sylweddau anhydawdd yn aros yn yr hidlydd fel gwaddod. a distylluTechneg gwahanu lle mae hydoddiant yn cael ei wresogi fel bod yr hydoddydd yn anweddu cyn cael ei oeri i ffurfio hylif pur., i wahanu cymysgeddau.
- Mae aer yn gymysgedd sy鈥檔 cynnwys yr elfennau nitrogen, ocsigen ac argon, a hefyd y cyfansoddyn carbon deuocsid.