Dechreuadau hip-hop
Dechreuodd hip-hop yn ardal y Bronx yn Efrog Newydd yn yr 1970au.
Mae ei ddechreuadau lleisiol yn perthyn i鈥檙 traddodiad 'tostio' Jamaicaidd. MCs o Jamaica oedd y rhai cyntaf i 鈥榙ostio鈥, ac mae鈥檔 golygu cyfuniad o siarad a siantio rhythmig
Byddai DJs Americanaidd-Affricanaidd, fel Grandmaster Flash a Kool Herc, a gafodd ei eni yn Jamaica ac sy鈥檔 cael ei adnabod fel 鈥榯ad hip-hop鈥, yn ymestyn y rhannau offerynnol ar recordiau (neu鈥檙 'toriadau') drwy gymysgu rhwng dau gopi unfath o鈥檙 un record.
Byddai rhai o鈥檙 DJs (neu鈥檙 MCs) yn rapio ar ben y 鈥榯oriadau鈥 mewn arddull o鈥檙 enw MC-io - lle byddai geiriau ac odlau鈥檔 cael eu llefaru er mwyn annog y gynulleidfa i ddawnsio.
Byddai鈥檙 dawnswyr yn codi yn ystod y toriadau ac yn dawnsio mewn ffordd hynod o egn茂ol, gan droelli鈥檙 pen a鈥檙 cefn. Daethon nhw i gael eu hadnabod fel breg-ddawnswyr.
Byddai hip-hop cynnar yn cael ei berfformio鈥檔 fyw, fel arfer mewn part茂on. Yn gyffredinol, mae pobl yn credu mai鈥檙 record hip-hop gyntaf oedd Rapper鈥檚 Delight gan The Sugarhill Gang, a gafodd ei recordio yn 1979.
Yn yr 1970au a鈥檙 80au, byddai鈥檙 geiriau鈥檔 aml yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol, gan roi llwyfan i Americanwyr Affricanaidd ifanc godi llais. Roedd y curiad bron wastad mewn amser 4/4, a鈥檙 gerddoriaeth yn aml yn cynnwys peiriannau drymio a syntheseiddwyr.
Yn yr 1980au, dechreuodd artistiaid ddefnyddio鈥檙 corff dynol i greu rhythmau, gan ddefnyddio鈥檙 geg, y gwefusau, y tafod a rhannau eraill o鈥檙 corff i greu b卯ts. Yr enw ar ddefnyddio鈥檙 llais fel techneg yn lle offerynnau taro yw 产卯迟-产辞肠蝉颈辞Ffurf leisiol ar offerynnau taro, gan ddefnyddio鈥檙 geg, y gwefusau, y tafod a鈥檙 llais i ddynwared peiriant drymio.. Ymhlith y perfformwyr cyntaf i ddefnyddio鈥檙 dechneg hon oedd Biz Markie a Doug E. Fresh.