DJs
Mae DJs cerddoriaeth ddawns yn defnyddio ffyrdd gwahanol o drin sain recordiadau, gan ychwanegu eu helfen greadigol eu hunain at y gerddoriaeth maen nhw鈥檔 ei chwarae. Ar y dechrau, recordiau finyl y byddai DJs yn eu defnyddio, ond heddiw mae nifer yn defnyddio deciau CD, gliniaduron a phecynnau meddalwedd i gymysgu traciau, dolennu adrannau a chreu cyfansoddiadau newydd yn fyw.
Ymhlith technegau鈥檙 DJ mae:
- Cymysgu - sef cymysgu recordiau gyda鈥檌 gilydd.
- Cyfateb curiadau - newid y cyflymder wrth chware record fel bod y tempo鈥檔 cyfateb i dempo鈥檙 g芒n sy鈥檔 chwarae ar y pryd.
- 叠谤别驳-蹿卯迟颈辞 - mae angen dau ddec i droelli鈥檙 un record, sy鈥檔 cynnwys rhyw fath o interliwd neu doriad gydag offerynnau taro. Pan fydd y toriad yn cael ei chwarae ar ddec 1, mae鈥檙 DJ yn symud yn sydyn i ddec 2, lle mae鈥檙 toriad eisoes wedi鈥檌 osod yn barod. Mae modd ailadrodd y broses, gan symud rhwng y deciau, er mwyn ymestyn y toriad gwreiddiol am ba mor hir bynnag. Mae enghraifft i鈥檞 chlywed fan hyn:
- Ciwio - dod o hyd i bwynt addas ar record i gymysgu i mewn i鈥檙 pwynt hwnnw.
- Blendio - pan fydd DJ yn defnyddio鈥檙 hafalydd i greu cymysgiad sy鈥檔 swnio鈥檔 ddi-dor.
- Newid traw - newid cyflymder y record.
- Crafu - symud record finyl yn 么l ac ymlaen, gan ddefnyddio gwahanol dechnegau croes graddolwrLlithrydd rheoli ar ddyfais electronig er mwyn codi neu ostwng lefelau鈥檙 sain. i dorri sain i mewn ac allan. Mae enghraifft i鈥檞 chlywed fan hyn:
- Jyglo b卯t - y weithred o drin dau samplRecordiad digidol byw sy鈥檔 cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun darn o gerddoriaeth. neu ragor i greu cyfansoddiad unigryw.
- Dolennu - pan fydd samplwr digidol yn cael ei ddefnyddio i ailadrodd sampl drosodd a throsodd. Gwranda ar ail bennill Bring the Noise gan Public Enemy. Sylwa ar sut mae鈥檔 defnyddio rapio a sampl o Funky Drummer James Brown gan ychwanegu drymiau bas dwbl wedi鈥檜 rhaglennu.