Mr Phormula
Mae Ed Holden, neu Mr Phormula, yn dod o ogledd Cymru. Mae鈥檔 arbenigo yn elfen b卯t-bocsio hip-hop, ac mae鈥檔 cyfansoddi cerddoriaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Yn 2018, daeth yn Bencampwr Dolennu Cymru, a chynrychioli Cymru hefyd ym Mhencampwriaeth Brwydr B卯t-Bocsio鈥檙 Byd.
Trac 'Cwestiynau'
Mae Cwestiynau yn ddarn enwog o gerddoriaeth sydd wedi鈥檌 greu gan Mr Phormula. Wrth ei greu, fe ddefnyddiodd ei brofiadau personol er mwyn cyfansoddi darn o gerddoriaeth gyda neges rymus. Cafodd y darn ei gyfansoddi mewn nifer o gamau:
- Cafodd b卯t lleisiol ei berfformio gan ddefnyddio technegau b卯t-bocsio, a鈥檌 recordio gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol.
- Y llinell fas gafodd ei recordio nesaf, gyda鈥檙 cyfansoddwr yn canu mewn cwmpasran isel.
- Cafodd y llinell fas hon wedyn ei trinPan fydd cerddoriaeth yn cael ei haddasu gan ddefnyddio effeithiau sy鈥檔 cael eu creu gan dechnoleg., gan ddefnyddio ategynCydran meddalwedd ychwanegol sy鈥檔 cael ei gosod ar gyfrifiadur i greu effaith gerddorol benodol. i greu effaith bas isel, gan gynhyrchu sain fawr.
- Cafodd y llinell fas ei chop茂o, a chafodd ystumiant ei ychwanegu er mwyn creu sain atmosfferig.
- Nesaf, recordiodd y cyfansoddwr y llinellau lleisiol a gafodd eu haenu ar dop y llinell fas er mwyn creu effaith gorawl. Cafodd gwahanol ategion - ategynCydran meddalwedd ychwanegol sy鈥檔 cael ei gosod ar gyfrifiadur i greu effaith gerddorol benodol., ategyn datsainDull o ddynwared sain acwstig byw adeilad, er enghraifft eglwys neu neuadd gyngerdd, neu fan agored. a cydweddwrProsesydd electronig sy鈥檔 cael ei ddefnyddio gyda sain i greu effaith grychdonnol. - eu defnyddio i greu鈥檙 sain atmosfferig y mae modd ei chlywed yn y rhagarweiniad.
- Yn olaf, cafodd y geiriau eu hysgrifennu, gyda鈥檙 cyfansoddwr yn gwrando ar y gerddoriaeth dro ar 么l tro i gael ysbrydoliaeth i鈥檙 geiriau.
Sawl gwaith yn y g芒n, mae llinell felodig lefn, traw uchel, yn cael ei chyflwyno i gyferbynnu 芒鈥檙 rhan rythmig traw is.
Tuag at ddiwedd y g芒n, mae adran gyferbyniol lle mae鈥檙 cyfansoddwr yn cael gwared ar lawer o elfennau鈥檙 cyfeiliant, er enghraifft y rhythm b卯t-bocsio a鈥檙 effeithiau corawl, gan adael dim byd ond y geiriau i gael eu clywed yn glir, sef 鈥楧w i鈥檔 defnyddio fy llais fel offeryn鈥.