大象传媒

Cymedr, canolrif, modd ac amrediadCanfod y cymedr ar gyfer tabl amlder

Y mesur cyfartaledd ydy鈥檙 rhif sy鈥檔 nodweddiadol ar gyfer set o ffigurau. Mae canfod y cyfartaledd yn help i ti dynnu casgliadau o鈥檙 data. Y prif fathau ydy鈥檙 cymedr, y canolrif a鈥檙 modd.

Part of MathemategCyfartaleddau

Canfod y cymedr ar gyfer tabl amlder

Enghraifft

Roedd Sara eisiau gwybod oedrannau'r plant ar ei bws ysgol (mewn blynyddoedd cyfan). Cynhaliodd arolwg, ac mae鈥檙 canlyniadau'n cael eu dangos isod:

Tabl yn cofnodi oedran 30 o blant ar fws ysgol

I gael y cymedr adia bob oedran 芒鈥檌 gilydd a rhanna 芒 chyfanswm nifer y plant.

Petaet ti鈥檔 teipio鈥檙 oedrannau hynny i gyd i mewn i gyfrifiannell mae鈥檔 debygol iawn y byddet ti鈥檔 gwneud camgymeriad neu鈥檔 anghofio ble rwyt ti yn y rhestr.

Byddai鈥檔 well pe baet ti鈥檔 gallu gweld y canlyniadau hyn wedi eu dangos mewn tabl amlder:

Tabl yn dangos oed ac amledd y 30 o blant ar fws ysgol

Mae鈥檙 tabl amlder yn dangos i ni bod chwech o blant \({11}\) oed, saith o blant \({12}\) oed, pump o blant \({13}\) oed ...ayyb.

I ganfod swm eu hoedrannau, cyfrifa:

\(({6}\times{11}) + ({7}\times{12}) + ({5}\times{13}) + ({7}\times{14}) + ({3}\times{15}) + ({2}\times{16}) = {390}\)

Cyfanswm nifer y plant ydy \({6} + {7} + {5} + {7} + {3} + {2} = {30}\).

Felly, yr oed gymedrig ydy \({390}\div{30} = {13}\).

Gallet ti ysgrifennu鈥檙 wybodaeth hon yn y tabl hefyd fel hyn:

Tabl i gyfrifo'r cymedr, gan luosi oed ac amlder y 30 o blant ar fws ysgol

\({Cymedr} = {390}\div{30} = {13}\)