Beth ydy 蟺?
I ganfod cylchedd ac arwynebedd cylch, bydd angen i ti ddefnyddio \(\pi\), rhif arbennig sy'n werth tua \({3.141592}\).
Y mathemategydd cyntaf i ddefnyddio'r symbol \(\pi\) (sy'n llythyren Roegaidd) oedd William Jones 鈥 mathemategydd o Gymru a fu'n ddisgybl yn ysgol Llanfechell ar Ynys M么n. Roedd yn ffrind agos i Syr Isaac Newton a Syr Edmund Halley. Ym mis Tachwedd \({1711}\) daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, ac yn ddiweddarach bu'n is-lywydd arni.
Ar gyfer unrhyw gylch, mae \({cylchedd}\div{diamedr} = {3.141592.......}\)
Mae鈥檙 rhif hwn mor arbennig fel ei fod wedi cael ei symbol ei hun, sef \(\pi\).
Mae鈥檔 amhosibl canfod union werth \(\pi\) fel degolyn neu ffracsiwn, felly defnyddir brasamcanion, megis \({3.14}\), \({3.142}\) a \(\frac{22}{7}\).
Mae gan bob cyfrifiannell wyddonol fotwm \(\pi\). Gelli di ddefnyddio hwn i wneud dy gyfrifiadau鈥檔 fwy cywir.
Os nad oes cyfrifiannell ar gael, neu os oes angen rhoi ateb bras i gyfrifiad sy鈥檔 cynnwys \(\pi\), yna talgrynna \(\pi\) i \({3}\) (neu beth bynnag sy鈥檔 cael ei awgrymu).