Cylchedd
Rydyn ni eisoes wedi gweld bod \({cylchedd}\div{diamedr} = \pi\).
Felly, mae \({cylchedd} = \pi\times{diamedr}\). Gallwn ni ysgrifennu hyn fel:
\({C} = \pi{d}\)
Mae鈥檙 diamedr ddwy waith hyd y radiws, felly gallwn ni ysgrifennu鈥檙 fformiwla hon fel:
\({C} = {2}\pi{r}\)
Question
Mae gan gylch ddiamedr o \({10}~cm\). Canfydda ei gylchedd. (Defnyddia \(\pi = {3.14}\))
Gan ddefnyddio \({C} =\pi{d}\)
\({C} = {3.14}\times{10}\)
\({C} = {31.4}~cm\)
Gan ddefnyddio \({C} = {2}\pi{r}\)
\({C} = {2}\times{3.14}\times{5}\)
\({C} = {31.4}~cm\)
Question
Mae gan Arwel a Beca byllau d诺r si芒p cylch yn eu gerddi.
Mae gan bwll Arwel ddiamedr o \({6}~m\).
Mae gan bwll Beca ddiamedr o \({3}~m\).
Mae Arwel yn dweud bod cylchedd ei bwll ddwy waith cylchedd pwll Beca.
a) Canfydda gylchedd y ddau bwll (defnyddia \(\pi = {3.14}\)).
b) Ydy gosodiad Arwel yn gywir?
a) Cylchedd pwll Arwel ydy \(\pi{d} = {3.14}\times{6} = {18.84}~m\) a chylchedd pwll Beca ydy \(\pi{d} = {3.14}\times{3} = {9.42}~m\).
b) Mae鈥檙 atebion i a) yn ei gwneud hi鈥檔 glir bod gosodiad Arwel yn gywir, gan fod \({18.84} = {2}\times{9.42}\).