Arwynebedd cylch
Dyma鈥檙 fformiwla ar gyfer arwynebedd cylch:
\({A} = \pi{r}^{2}\)
Ystyr \(\pi{r}^{2}\) ydy \(\pi\times{r}\times{r}\). Dim ond yr \({r}\) sydd wedi ei sgwario.
Question
Canfydda arwynebedd y canlynol (defnyddia \(\pi = {3.14}\)):
a) cylch 芒 radiws \({6}~cm\)
b) cylch 芒 diamedr \({10}~cm\)
a) Mae \({r} = {6}~cm\), felly rydyn ni鈥檔 cyfrifo \({A}={3.14}\times{6}\times{6}={113.04}~cm^{2}\)
b) Y diamedr ydy \({10}~cm\), felly mae鈥檙 radiws yn \({5}~cm\). Rydyn ni鈥檔 cyfrifo \({A} = {3.14}\times{5}\times{5} = {78.5}~cm^{2}\)
Question
Mae gan fwrdd dartiau radiws o \({20}~cm\). Mae gan y 鈥榖wl鈥 yng nghanol y bwrdd radiws o \({1}~cm\).
Trwy gyfrifo arwynebedd y ddau gylch, canfydda arwynebedd y bwrdd dartiau y tu allan i鈥檙 bwl (defnyddia \(\pi = {3.14}\)).
Arwynebedd y bwrdd dartiau y tu allan i鈥檙 bwl ydy \({1,252.86}~cm^{2}\)
Cofia mai arwynebedd y cylch mawr ydy \({3.14}\times{20}\times{20} = {1,256}~cm^{2}\)
Arwynebedd y cylch bach ydy \({3.14}\times{1}\times{1} = {3.14}cm^{2}\)
Felly, arwynebedd y bwrdd dartiau y tu allan i鈥檙 bwl ydy \({1,256} - {3.14} = {1,252.86}~cm^{2}\)