Adweithiau dadleoli ocsidau metel
Bydd metel mwy adweithiol yn dadleoliCymryd lle sylwedd arall mewn adwaith cemegol. Er enghraifft, gall metel ddadleoli metel llai adweithiol o鈥檌 ocsid, gan dynnu鈥檙 茂onau ocsid o鈥檙 metel llai adweithiol a throi鈥檔 ocsid ei hun. metel llai adweithiol o cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau.. Mae鈥檙 adwaith thermitAdwaith dadleoliad neu gystadleuaeth rhwng alwminiwm a haearn ocsid sy'n cynhyrchu alwminiwm ocsid a haearn. Mae'n rhyddhau digon o wres i doddi'r haearn, felly gallwn ni ei ddefnyddio i gysylltu cledrau rheilffordd 芒'i gilydd. yn enghraifft dda o hyn. Rydyn ni鈥檔 ei ddefnyddio i gynhyrchu haearn tawdd (hylifol) gwynias mewn lleoliadau anghysbell ar gyfer weldio. Mae angen llawer o wres i ddechrau鈥檙 adwaith (rydyn ni鈥檔 defnyddio ffiws magnesiwm, sy鈥檔 rhoi gwres i鈥檙 adweithyddion), ond yna mae鈥檔 rhyddhau swm anhygoel o wres sy鈥檔 ddigon i doddi鈥檙 haearn.
alwminiwm + haearn(III) ocsid 鈫 haearn + alwminiwm ocsid
2Al + Fe2O3 鈫 2Fe + Al2O3
Gan fod alwminiwm yn fwy adweithiol na haearn, mae鈥檔 dadleoli haearn o haearn(III) ocsid. Mae鈥檙 alwminiwm yn tynnu ocsigen o鈥檙 haearn(III) ocsid:
- mae haearn(III) ocsid yn cael ei rhydwythiadAdwaith lle mae sylwedd yn colli ocsigen neu鈥檔 ennill electronau.
- mae alwminiwm yn cael ei ocsidiadAdwaith lle mae sylwedd yn ennill ocsigen neu鈥檔 colli electronau.
Mae鈥檙 adweithiau rhwng metelau ac ocsidau metel yn caniat谩u i ni roi detholiad o fetelau mewn cyfres adweithedd. Gan ddefnyddio metelau A, B ac C:
Metel A | Metel B | Metel C | |
A ocsid | X | Dadleoli A | Dadleoli A |
B ocsid | Dim adwaith | X | Dim adwaith |
C ocsid | Dim adwaith | Dadleoli C | X |
A ocsid | |
---|---|
Metel A | X |
Metel B | Dadleoli A |
Metel C | Dadleoli A |
B ocsid | |
---|---|
Metel A | Dim adwaith |
Metel B | X |
Metel C | Dim adwaith |
C ocsid | |
---|---|
Metel A | Dim adwaith |
Metel B | Dadleoli C |
Metel C | X |
- Dydy metel A ddim yn gallu dadleoli B nac C 鈥 felly mae鈥檔 rhaid mai hwn yw鈥檙 lleiaf adweithiol a鈥檌 fod ar waelod y gyfres adweithedd hon.
- Mae metel B yn dadleoli A a hefyd C 鈥 felly mae鈥檔 rhaid mai hwn yw鈥檙 mwyaf adweithiol a鈥檌 fod ar frig y gyfres adweithedd hon.
- Mae metel C yn dadleoli A ond yn methu dadleoli C 鈥 felly mae鈥檔 rhaid ei fod yn fwy adweithiol nag A ond yn llai adweithiol na B, a鈥檌 fod rhwng y ddau yn y gyfres adweithedd hon.
Felly, y drefn yw:
Yn gyffredinol, y mwyaf yw鈥檙 gwahaniaeth rhwng adweithedd dau fetel mewn adwaith dadleoli, y mwyaf o egni sy鈥檔 cael ei ryddhau.
Mae alwminiwm yn llawer uwch na haearn yn y gyfres adweithedd, felly mae鈥檙 adwaith thermit yn rhyddhau llawer o egni. Mae magnesiwm yn uchel iawn yn y gyfres adweithedd, ac mae copr yn isel iawn 鈥 felly mae鈥檙 adwaith rhwng magnesiwm a chopr(II) ocsid yn fwy ffyrnig.