大象传媒

Cyfres adweithedd metelauAdweithiau dadleoli hydoddiannau

Mae'r dull rydyn ni'n ei ddefnyddio i echdynnu metelau'n dibynnu ar adweithedd y metel. Mae'r gyfres adweithedd yn caniat谩u i ni ragfynegi sut bydd metelau'n adweithio.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Adweithiau dadleoli hydoddiannau

Bydd metel mwy adweithiol yn metel llai adweithiol o hydoddiant o un o鈥檌 halwynau. Er enghraifft:

magnesiwm + copr(II) sylffad 鈫 copr + magnesiwm sylffad

Mg(s) + CuSO4(dyfr) 鈫 Cu(s) + MgSO4(dyfr)

Yn yr adwaith hwn, mae lliw glas y copr(II) sylffad yn pylu wrth iddo gael ei ddefnyddio (mae hydoddiant magnesiwm sylffad yn ddi-liw). Bydden ni hefyd yn gweld metel copr (solid coch/brown) yn ffurfio.

Diagram yn dangos bod rhoi magnesiwm mewn hydoddiant copr(II) sylffad glas a throi'r hydoddiant yn ffurfio hydoddiant magnesiwm sylffad di-liw a chopr.

Mae adweithiau rhwng metelau a hydoddiannau o halwynau metel yn caniat谩u i ni roi detholiad o fetelau mewn cyfres adweithedd. Gan ddefnyddio metelau J, K ac L:

Metel JMetel KMetel L
J sylffadXDim adwaith i'w weldDim adwaith i'w weld
K sylffadDadleoli KXDadleoli K
L sylffadDadleoli LDim adwaith i'w weldX
J sylffad
Metel JX
Metel KDim adwaith i'w weld
Metel LDim adwaith i'w weld
K sylffad
Metel JDadleoli K
Metel KX
Metel LDadleoli K
L sylffad
Metel JDadleoli L
Metel KDim adwaith i'w weld
Metel LX

Rydyn ni鈥檔 arsylwi鈥檙 dadleoliad wrth i liw鈥檙 metel newid a/neu wrth i liw鈥檙 hydoddiant newid.

  • Mae metel J yn dadleoli K a hefyd L 鈥 felly mae鈥檔 rhaid mai hwn yw鈥檙 mwyaf adweithiol a鈥檌 fod ar frig y gyfres adweithedd hon.
  • Dydy metel K ddim yn gallu dadleoli J nac L 鈥 felly mae鈥檔 rhaid mai hwn yw鈥檙 lleiaf adweithiol a鈥檌 fod ar waelod y gyfres adweithedd hon.
  • Mae metel L yn dadleoli K ond yn methu dadleoli J 鈥 felly mae鈥檔 rhaid ei fod yn fwy adweithiol na K ond yn llai adweithiol na J, a鈥檌 fod rhwng y ddau yn y gyfres adweithedd hon.

Felly, y drefn yw:

Rhestr o lythrennau o'r mwyaf adweithiol i'r lleiaf adweithiol: J, L a K.