Dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu
Mae dyfeisiau mewnbynnu, er enghraifft bysellfwrdd, yn caniat谩u i ni roi data crai mewn cyfrifiadur. Mae鈥檙 cyfrifiadur yn prosesu鈥檙 data ac yn cynhyrchu allbynnau. Gall dyfeisiau mewnbynnu fod yn ddyfeisiau llaw neu鈥檔 ddyfeisiau awtomatig.
Dyfeisiau mewnbynnu 芒 llaw
Y dyfeisiau mwyaf cyffredin ar gyfer mewnbynnu 芒 llaw yw鈥檙 bysellfwrdd a鈥檙 llygoden. Mae dyfeisiau mewnbynnu 芒 llaw eraill yn cynnwys:
Pelen lwybro
Mae pelen lwybro鈥檔 cael ei defnyddio fel dewis arall yn lle llygoden. Mae鈥檙 defnyddiwr yn cylchdroi鈥檙 belen ac mae hynny鈥檔 symud y pwyntydd ar sgrin. Mae鈥檔 hawdd iawn i鈥檞 defnyddio, hyd yn oed gan rywun sydd ddim yn gallu symud ei ddwylo鈥檔 dda. Yn aml iawn mae鈥檔 cael ei defnyddio ar gyfer Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) oherwydd ei bod yn fwy manwl gywir na llygoden.
Microffon
Mae microffonau鈥檔 cael eu defnyddio i fewnbynnu sain. Ym maes cyfrifiadureg mae鈥檔 bosibl eu defnyddio gyda meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol. adnabod llais a rhaglen (ap)Rhaglen feddalwedd sy鈥檔 caniat谩u i ddefnyddiwr gyflawni tasg benodol. brosesu geiriau er mwyn mewnbynnu testun. Fel arfer mae gwe-gamer芒u yn cynnwys microffonau hefyd.
Sgrin gyffwrdd
Mewn uned arddangos weledol (VDU), neu sgrin sensitif i gyffyrddiad, mae grid o baladrau golau neu wifrau main yn croesi鈥檙 sgrin. Mae鈥檙 rhain yn cael eu defnyddio i synhwyro cyffyrddiad. Mae llawer o ffonau symudol yn defnyddio sgriniau cyffwrdd ac yn cael gwared ar y bysellbad yn gyfan gwbl. Maen nhw鈥檔 cael eu defnyddio鈥檔 aml ar beiriannau arian parod a hefyd mewn canolfannau siopa. Mae sgriniau cyffwrdd yn gryf, yn hawdd i鈥檞 defnyddio ac yn hawdd i鈥檞 hailraglennu. Mae sgrin gyffwrdd yn ddyfais allbynnu hefyd.
Digidydd fideo
Mae digidydd fideo yn cymryd delwedd o gamera fideo neu set deledu ac yn ei digido fel bod modd iddi gael ei darllen gan gyfrifiadur a鈥檌 storio ar gyfrifiadur. Mae dilyniannau fideo sy鈥檔 cael eu dal gan ddefnyddio digidydd fideo yn cael eu defnyddio鈥檔 aml mewn cyflwyniadYr arfer o ddangos ac egluro cynnwys pwnc i gynulleidfa neu ddysgwr. amlgyfrwngDefnyddio nifer o fathau o allbynnau cyfryngau o gyfrifiadur er mwyn rhoi profiad mwy cyfoethog a mwy diddorol i鈥檙 defnyddiwr..
Tabled graffeg
Mae tabled graffeg yn cynnwys pad fflat (y tabled). Mae鈥檙 defnyddiwr yn tynnu llun ar y pad gan ddefnyddio pen arbennig. Wrth i鈥檙 defnyddiwr dynnu llun ar y pad mae鈥檙 ddelwedd yn cael ei chreu ar y sgrin. Drwy ddefnyddio tabled graffeg gall dylunydd gynhyrchu lluniadau trachywir ar sgrin fel pe baen nhw鈥檔 cael eu lluniadu ar bapur.