大象传媒

Defnyddio egniDargludiad

Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Dargludiad

Mae gwahaniaethau tymheredd yn arwain at drosglwyddo egni yn thermol drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad.

Dargludiad

  • Mae dargludiad yn digwydd mewn solidau.
  • Mae metelau yn ddargludyddion da.
  • Mae anfetelau a nwyon yn ddargludyddion gwael fel rheol.
  • Mae dargludyddion gwael yn cael eu galw鈥檔 ynysyddion.
  • Mae egni gwres yn cael ei ddargludo o ben poeth gwrthrych i鈥檞 ben oer.

Dargludiad mewn anfetelau

Os yw un pen i solid yn cael ei wresogi, mae gronynnau'r solid yn ennill sy'n achosi iddynt ddirgrynu mwy. Mae'r mewn solid yn agos at ei gilydd ac felly mae'r egni o'r dirgryniadau hyn yn cael ei drosglwyddo i'r atom nesaf, sy'n golygu bod pob atom wedi hynny'n dirgrynu mwy. Mewn anfetelau, mae proses dargludiad yn araf.

Tair rhes o ronynnau crwn, coch wedi鈥檜 gosod yn agos at ei gilydd.

Mae gronynnau mewn solid:

  • yn gallu dirgrynu mewn safle sefydlog
  • yn methu symud o le i le

Dargludiad mewn metelau

Mae'r mewn darn o fetel yn gallu gadael eu hatomau a symud o gwmpas yn y metel fel electronau rhydd (neu ddadleoledig). Mae'r rhannau o'r atomau metel sy'n cael eu gadael ar 么l nawr yn metel 芒 gwefr bositif. Mae鈥檙 茂辞苍补耻 wedi鈥檜 pacio鈥檔 dynn ac maen nhw鈥檔 dirgrynu鈥檔 barhaus. Y poethaf yw鈥檙 metel, y mwyaf o egni cinetig sydd gan y dirgryniadau hyn. Mae鈥檙 egni cinetig hwn yn cael ei drosglwyddo o rannau poeth y metel i鈥檙 rhannau oerach gan yr electronau rhydd.

Mae鈥檙 rhain yn symud drwy adeiledd y metel, gan wrthdaro ag 茂辞苍补耻 ar eu ffordd.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Diagram yn dangos bar metel yn cael ei gynhesu dros fflam. Mae adran yn dangos atomau tu mewn i鈥檙 metel. Mae wedi鈥檌 labelu 芒 Metel, Atomau a Gwres., Dargludiad mewn metel Bar metel yn cael ei gynhesu

Ymchwilio i ddargludyddion

Gallwn ni gynnal arbrawf i ddarganfod pa fetel yw鈥檙 dargludydd gwres gorau. Mae'n defnyddio stribedi hir tenau o wahanol fetelau (ee haearn, alwminiwm a chopr), cwyr, pinnau bawd a llosgydd Bunsen.

Dull

Arbrawf dargludyddion. Mae rhoden bres, rhoden haearn, rhoden gopr a rhoden alwminiwm yn cael eu cynhesu gyda fflam. Ar ben pob rhoden mae pin bawd yn cael ei ddal yn ei le gyda chwyr.
  1. Defnyddia ddiferion o gwyr i glymu鈥檙 pin bawd i ben y stribed metel.
  2. Rho ben arall y stribed metel mewn fflam Bunsen.
  3. Cofnoda faint o amser y mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 cwyr doddi ac i鈥檙 pin bawd ddisgyn.

Mae鈥檙 amser cyflymaf yn dangos y dargludydd gwres gorau.

Mae鈥檙 newidynnau sy鈥檔 effeithio ar yr amser y mae鈥檔 ei gymryd i鈥檙 pinnau bawd ddisgyn yn cynnwys eu pellter o鈥檙 fflam a pha mor drwchus ydy鈥檙 metel.

Os wyt ti wedi rheoli鈥檙 holl newidynnau hyn, dylet ti weld bod copr yn dargludo鈥檔 well nag alwminiwm, tra bod alwminiwm yn dargludo鈥檔 well na haearn.