大象传媒

Defnyddio egniDarfudiad

Mae egni gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o le i le drwy gyfrwng dargludiad, darfudiad a phelydriad. Mae deall sut i reoli'r prosesau hyn yn ein helpu ni i ddefnyddio llai o egni.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Darfudiad

Mae gwres yn gallu cael ei drosglwyddo o un lle i le arall drwy ddarfudiad mewn hylifau a nwyon (llifyddion).

Llifyddion

Llifyddion ydy hylifau a nwyon gan ei bod yn bosibl gwneud iddyn nhw lifo. Gall y sydd yn y llifyddion hyn symud o le i le. Mae darfudiad yn digwydd wrth i ronynnau sydd 芒 llawer o egni gwres mewn hylif neu nwy symud, a chymryd lle gronynnau sydd 芒 llai o egni gwres.

Diagram yn dangos ceryntau aer yn agos at reiddiadur. Mae cerrynt darfudiad yn cael ei ddangos gan saethau coch a glas.
Figure caption,
Cerrynt aer ger rheiddiadur

Darfudiad yw enw鈥檙 broses o drosglwyddo egni gwres o leoedd poeth i leoedd oerach.

Mae hylifau a nwyon yn ehangu wrth gael eu gwresogi.

A beaker filled with water above a flame, with purple dye rising to the top of the beaker
Figure caption,
Mae bicer yn cael ei wresogi ac mae鈥檙 llifydd lliw y tu mewn yn dangos ceryntau

Y rheswm am hyn yw bod y gronynnau mewn hylifau a nwyon yn symud yn gyflymach wrth gael eu gwresogi nag ydyn nhw pan maen nhw鈥檔 oer.

O ganlyniad, mae鈥檙 gronynnau angen cyfaint mwy. Y rheswm am hyn yw bod y bwlch rhwng y gronynnau yn lledu, tra bod y gronynnau eu hunain yn aros yr un faint.

Mae鈥檙 hylif neu鈥檙 nwy mewn mannau poeth yn llai na鈥檙 hylif neu鈥檙 nwy mewn mannau oer, felly mae鈥檔 codi i鈥檙 mannau oer. Mae鈥檙 hylif neu鈥檙 nwy dwysach yn disgyn i鈥檙 mannau cynnes. Wrth i hyn ddigwydd, mae cerrynt darfudiad sy鈥檔 trosglwyddo gwres o le i le yn cael eu sefydlu.

Mae ceryntau darfudiad i鈥檞 gweld mewn lampau lafa. Mae鈥檙 cwyr yn y lamp yn cynhesu, yn mynd yn llai dwys na鈥檙 hylif ac yn codi. Wrth godi, mae鈥檔 oeri ac yn mynd yn ddwysach eto, felly mae鈥檔 suddo. Mae鈥檔 bosibl gweld yr un effaith drwy roi crisial o botasiwm permanganad mewn bicer o dd诺r a鈥檌 gynhesu鈥檔 araf.

Mae darfudiad yn esbonio pam y mae balwnau aer poeth yn codi, a hefyd pam y mae鈥檔 gynhesach yn y llofft nag i lawr grisiau yn aml.

Yn ogystal 芒鈥檙 enghreifftiau hyn, mae darfudiad yn cael ei weld ar raddfa fwy o lawer yn ein tywydd ac yng ngheryntau'r cefnforoedd.