Ffyrdd o leihau colledion gwres
Os oes modd lleihau colledion gwres, bydd angen llai o danwydd i wresogi'r adeilad. Mae hynny'n golygu y byddai] llai o garbon deuocsid yn cael ei ryddhau i'r atmosffer, sy'n golygu bod llai o gynnydd yn y nwyon t欧 gwydr sy'n arwain at gynhesu byd-eang.
Ffyrdd syml
Mae yna rai ffyrdd syml o leihau colledion gwres, gan gynnwys gosod carpedi, llenni a stribedi atal drafft. Mae hyd yn oed yn bosibl gosod ffoil adlewyrchol yn y waliau neu arnyn nhw.
Gwydro dwbl
Gall gwydro dwbl leihau colledion gwres drwy ffenestri. Mae aer neu wactod rhwng y ddau gwarel o wydr. Os bydd gwactod rhwng y ddau gwarel gwydr, ni fydd unrhyw ddargludiad neu ddarfudiad. Os bydd aer rhwng y ddau gwarel gwydr, bydd darfudiad yn lleihau oherwydd does dim llawer o le i鈥檙 aer symud. Hefyd gan fod aer yn ddargludydd gwael ychydig o wres a gollir drwy ddargludiad.
Ynysiad wal geudod
Gall colledion gwres drwy waliau gael eu lleihau drwy ddefnyddio ynysiad wal geudod. Mae defnydd ynysu鈥檔 cael ei chwistrellu i mewn i鈥檙 bwlch rhwng y wal allanol a鈥檙 wal fewnol. Mae defnyddiau ynysu yn ddargludyddion gwael, sy鈥檔 lleihau colledion gwres drwy ddargludiad. Hefyd mae鈥檙 defnydd yn atal aer rhag cylchredeg o fewn y ceudod. Oherwydd y ffaith bod llai o wres yn cael ei drosglwyddo i鈥檙 wal allanol, mae hyn hefyd yn lleihau darfudiad ar du allan yr adeilad.
Yn aml, mae ynysiad waliau ceudod yn cynnwys haen o ffoil arian i leihau'r gwres sy'n cael ei golli drwy belydriad isgoch drwy ei adlewyrchu yn 么l i mewn i'r adeilad.
Ynysiad atig
Gallwn ni leihau colledion gwres drwy'r to drwy osod ynysiad atig. Mae hwn yn gweithio mewn ffordd debyg i ynysiad waliau ceudod.