大象传媒

Anhafaleddau - Canolradd ac UwchTrin a datrys anhafaleddau llinol

Algebra yw un o鈥檙 arfau mwyaf pwerus ym myd mathemateg 鈥 hebddo, ni fyddai gennyn ni dechnoleg gyfrifadurol fodern, datblygiadau meddygol na theithiau awyren fel y gwyddwn ni amdanyn nhw heddiw.

Part of MathemategAlgebra

Trin a datrys anhafaleddau llinol

Datrys anhafaleddau

Mae鈥檙 broses o ddatrys anhafaleddau鈥檔 union yr un fath 芒鈥檙 broses i ddatrys hafaliadau, sy鈥檔 defnyddio i gadw鈥檙 sym yn gytbwys. Yn hytrach na defnyddio hafalnod, defnyddir yr arwydd anhafaledd drwy鈥檙 cyfan.

Enghraifft

Datrysa鈥檙 anhafaledd \({3 m}~{+}~2~{\textgreater}~{-4}\)

Bydd yr anhafaledd yn cael ei ddatrys pan fo \({m}\) wedi ei leoli ar ei ben ei hun ar un ochr yr anhafaledd. Gallwn wneud hyn trwy ddefnyddio gweithrediadau gwrthdro ym mhob cam o鈥檙 gwaith cyfrifo.

Datrys yr anhafaledd 3m + 2 > -4 trwy dynnu 2 o鈥檙 ddwy ochr, yna rhannu鈥檙 ddwy ochr 芒 3.

Yr ateb terfynol yw \({m}~{\textgreater}~{-2}\), sy鈥檔 golygu y gall \({m}\) fod yn unrhyw werth sy鈥檔 fwy na \({-2}\), heb gynnwys \({-2}\) ei hun. Pe baen ni鈥檔 gosod yr ateb hwn ar linell rif, byddai arnon ni angen cylch agored yn \({-2}\) gyda llinell yn nodi鈥檙 rhifau sy鈥檔 fwy na hynny.

Llinell rif o -5 i 5 gyda chylch gwag dros y -2 a saeth yn pwyntio tuag at 5.

Fel y sonion ni鈥檔 gynharach, mae鈥檙 rheolau鈥檔 union yr un fath wrth drin anhafaleddau 芒 phan fyddwn ni鈥檔 trin hafaliadau 鈥 ond gydag un eithriad:

Enghraifft

Datrysa鈥檙 anhafaledd -2(2c +2) 鈮 -5. Dangosa鈥檙 ateb ar linell rif.

Ateb

Yn gyntaf, rydyn ni鈥檔 ehangu鈥檙 cromfachau:

(-2 x 2c) + (-2 x +2) 鈮 -5

Yna symleiddio:

-4c - 4 鈮 -5

Yna rydyn ni鈥檔 adio 4 at y ddwy ochr:

-4c 鈮 -1

Yn olaf, rydyn ni鈥檔 rhannu鈥檙 ddwy ochr 芒 -4 gan gofio bod hyn yn newid cyfeiriad yr anhafaledd:

\({c}~{\leq}~\frac {1}{4}\)

Dyma sut y gallwn ddangos hyn ar linell rif:

Linell rif o -5 i 5 gyda chylch caeedig dros y 1/4 a saeth yn pwyntio at -5.

Enghraifft

Datrysa鈥檙 anhafaledd \(\frac {3y}{2}\) + 4 > -5

Yn gyntaf, rydyn ni鈥檔 tynnu 4 o鈥檙 ddwy ochr:

\(\frac {3y}{2}\) > - 9

Yna rydyn ni鈥檔 lluosi dwy ochr yr hafaliad 芒 2:

3y > -18

Yn olaf, rydyn ni鈥檔 rhannu dwy ochr yr hafaliad 芒 3

y > -6

Question

Datrysa鈥檙 anhafaledd 3(3 - x) \({\textless}\) 6

Question

Datrysa鈥檙 anhafaledd \(\frac {2x}{5}\) - 7 鈮 1