大象传媒

Anhafaleddau - Canolradd ac UwchGraffiau anhafaleddau

Algebra yw un o鈥檙 arfau mwyaf pwerus ym myd mathemateg 鈥 hebddo, ni fyddai gennyn ni dechnoleg gyfrifadurol fodern, datblygiadau meddygol na theithiau awyren fel y gwyddwn ni amdanyn nhw heddiw.

Part of MathemategAlgebra

Graffiau anhafaleddau

Mae鈥檙 drefn wrth blotio graffiau anhafaleddau鈥檔 debyg iawn i鈥檙 drefn wrth blotio graffiau.

Gallwn blotio graffiau anhafaleddau syml yn baralel i鈥檙 echelinau-\(x\) neu \(y\) a gall tablau gwerthoedd ein helpu i blotio llinellau mwy cymhleth.

Er enghraifft, mae鈥檙 graff hwn yn dangos yr anhafaledd \(x \textless -1\). Gwelwn hyn gan fod llinell doredig yn -1, ac mae鈥檙 sy鈥檔 llai na hyn wedi ei thywyllu.

Graff gydag echelinau x ac y o -5 i 5, llinell doredig ar x=-1, gyda phwynt wedi ei farcio ar y llinell yn y = 4.5 a鈥檙 label 'x < -1'.

Enghraifft

Dangosa鈥檙 rhanbarth sy鈥檔 bodloni鈥檙 anhafaledd \(-2 \textless x \leq 3\).

Noda鈥檙 rhanbarthau mae鈥檙 anhafaleddau yn cyfeirio atyn nhw. Dyma nhw: \(x \textgreater -2\) a \(x \leq 3\).

Mae \(x \textgreater -2\) felly llunia linell doredig yn \(x = -2\). \(x = -2\) yw鈥檙 graff sy鈥檔 cael ei lunio gan bwyntiau鈥檙 cyfesurynnau lle mae \(x\) yn hafal i -2, er enghraifft (-2, 5), (-2, 4), (-2, 3), (-2, 2) ac yn y blaen.

Mae \(x \leq 3\) felly llunia linell solet yn \(x = 3\). \(x = 3\) yw鈥檙 graff sy鈥檔 cael ei lunio gan bwyntiau鈥檙 cyfesurynnau lle mae \(x\) yn hafal i 3, er enghraifft (3, -4), (3, -3), (3,-2), (3, -1) ac yn y blaen.

\(x\) yw鈥檙 gwerthoedd rhwng y ddau anhafaledd hyn, felly tywylla鈥檙 ardal.

Graff gydag echelinau x ac y o -5 i 5, llinell doredig yn x = -2, gyda鈥檙 label 'x > -2'. Llinell solet ar y = 3, gyda phwynt yn nodi鈥檙 label x 鈮 3.

Question

Dangosa ranbarth y pwyntiau sy鈥檔 bodloni鈥檙 anhafaleddau \(-4 \leq y \textless 0\) ac \(y \geq x\)