大象传媒

Ffwythiannau - Uwch yn unigFfwythiannau

Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.

Part of MathemategAlgebra

Ffwythiannau

Mae ffwythiant yn ffordd o ddisgrifio beth sy鈥檔 digwydd i newidyn mewnbwn, er mwyn cael canlyniad yr allbwn.

\(\text{Mewnbwn} \rightarrow \text{FFWYTHIANT} \rightarrow \text{Allbwn}\)

Os meddyliwn ni am ffwythiant syml megis "lluosi 芒 3", gallwn bennu set o werthoedd allbwn.

Tabl pedair rhes a thair colofn gyda鈥檙 penawdau 鈥楳ewnbwn鈥, 鈥楩fwythiant = lluosi 芒 3鈥 ac 鈥楢llbwn鈥.

Yn hytrach nag ysgrifennu Ffwythiant = lluosi 芒 3 gallwn ddefnyddio algebra.

Rydyn ni鈥檔 galw鈥檙 mewnbwn yn \(x\) ac yn byrhau ffwythiant \({x}\) i \(f(x)\):

\(f(x) = 3x\)

Gall y ffwythiant fod yn fwy cymhleth a chynnwys algebra. Yn yr enghraifft isod, pan fo'r mewnbwn yn \({x}\), y ffwythinat yw'r mewnbwn wedi ei sgwario, adio 1.

\(f(x) = x^2 + 1\)

Gallwn ysgrifennu hyn mewn tabl:

Tabl pedair rhes a thair colofn gyda鈥檙 penawdau 鈥榵鈥, 鈥榝(x) = x wedi ei sgwario + 1鈥 a 鈥榝(x)鈥.

Question

Canfydda鈥檙 gwerthoedd allbwn i gwblhau鈥檙 tabl ar gyfer y ffwythiant:

\(f(x) = 2x^2 - 3\)

Tabl pedair rhes anghyflawn, a thair colofn gyda鈥檙 penawdau 鈥榵鈥, 鈥榝(x) = 2x wedi ei sgwario 鈥 3鈥 a 鈥榝(x)鈥.

Ar ffurf graff, mae, \(f(x) = x^2\) yr un fath 芒 graff \(y = x^2\). Mae鈥檔 ddefnyddiol i ni ysgrifennu graffiau fel ffwythiannau ar ffurf \(f(x)\) wrth wneud trawsfudiadau ac adlewyrchiadau ar graffiau.