大象传媒

Ffwythiannau - Uwch yn unigTrawsfudiadau graffiau

Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.

Part of MathemategAlgebra

Trawsfudiadau graffiau

Trawsfudiadau sy鈥檔 baralel i鈥檙 echelin-y

Mae trawsfudiad yn golygu symud y graff naill ai鈥檔 llorweddol yn baralel i鈥檙 echelin-\(x\) neu鈥檔 fertigol yn baralel i鈥檙 echelin-\(y\).

Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(f(x) + a = x^2 + a\).

Mae gwerth \(a\) yn cynrychioli symudiad fertigol yn y graff. Wrth i \(a\) gynyddu, mae鈥檙 graff yn symud tuag i fyny. Wrth i \(a\) leihau, mae鈥檙 graff yn symud tuag i lawr.

Enghraifft un

\(f(x) = x^2\)

\(f(x) + 3 = x^2 + 3\)

Graff f(x) = x wedi ei sgwario a f(x) + 3 = x wedi ei sgwario + 3

Enghraifft dau

\(f(x) = x^2\)

\(f(x) - 2 = x^2 - 2\)

Graff f(x) = x wedi ei sgwario a f(x) - 2 = x wedi ei sgwario - 2

Mae \(f(x) + a\) yn cynrychioli trawsfudiad drwy鈥檙 fector \(\begin{pmatrix} 0 \\ a \end{pmatrix}\).

Trawsfudiadau sy鈥檔 baralel i鈥檙 echelin-x

Os yw \(f(x) = x^2\) yna mae \(f(x + a) = (x + a)^2\).

Mae gwerth \(a\) yn cynrychioli trawsfudiad llorweddol negatif yn y graff. Os yw \(a\) yn bositif, yna bydd y graff yn trawsfudo i鈥檙 chwith. Os yw gwerth \(a\) yn negatif, yna bydd y graff yn trawsfudo i鈥檙 dde.

Enghraifft un

\(f(x) = x^2\)

\(f(x + 3) = (x + 3)^2\)

Graff f(x) = x wedi ei sgwario a f(x + 3) = (x + 3) wedi ei sgwario

Enghraifft dau

\(f(x) = x^2\)

\(f(x - 2) = (x - 2)^2\)

Graff f(x) = x wedi ei sgwario a f(x - 2) = (x 鈥 2) wedi ei sgwario

Mae \(f(x + a)\) yn cynrychioli trawsfudiad drwy鈥檙 fector \(\begin{pmatrix} -a \\ 0 \end{pmatrix}\)