Ffwythiannau - Uwch yn unigYmestyn a chywasgu graffiau
Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.
Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(af(x) = a(x^2)\). Mae hyn yn dweud wrthyn ni bod angen i ni luosi pob un o鈥檙 cyfesurynnau \(y\) ar y graff ag \(a\) er mwyn ymestyn y graff gwreiddiol.
Enghraifft
\(f(x) = x^2\)
\(3f(x) = 3x^2\)
Gan edrych ar rai cyfesurynnau, rydyn ni鈥檔 gwybod bod \(f(x) = x^2\) yn mynd drwy \(\left(-2, 4\right)\), \(\left(-1, 1\right)\), \(\left(0, 0\right)\), \(\left(1, 1\right)\), \(\left(2, 4\right)\) ymysg pwyntiau eraill.
Ar gyfer \(3f(x) = 3x^2\) mae angen i ni luosi pob un o鈥檙 cyfesurynnau \(y\) 芒 3 er mwyn pennu safle ymestynedig y graff.
Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(f(ax) = (ax)^2\). Mae hyn yn dweud wrthyn ni bod angen i ni rannu pob un o鈥檙 cyfesurynnau \(x\) ar y graff ag \(a\) er mwyn cywasgu鈥檙 graff gwreiddiol.
Enghraifft
\(f(x) = x^2\)
\(f(2x) = (2x)^2\)
Gan edrych ar yr un cyfesurynnau eto, ar gyfer \(f(2x) = (2x)^2\) mae angen i ni rannu pob un o鈥檙 cyfesurynnau \(x\) 芒 2 er mwyn pennu safle cywasgedig y graff.