Gallwn drawsffurfio ffwythiannau graffiau i ddangos symudiadau ac adlewyrchiadau. Mae dylunwyr graffeg a modelwyr 3D yn defnyddio trawsffurfiadau graffiau i ddylunio gwrthrychau a delweddau.
Part of MathemategAlgebra
Save to My Bitesize
Gall graffiau gael eu hadlewyrchu naill ai yn yr echelin-\(x\) neu \(y\).
Os yw \(f(x) = x^2\), yna mae \(-f(x) = -(x^2)\).
Mae hyn yn golygu y bydd pob un o鈥檙 cyfesurynnau \(y\) yn newid ei arwydd.
Felly byddai \(y = 4\) yn mynd yn \(y = -4\), a byddai \(y = -1\) yn mynd yn \(y = 1\) ac yn y blaen.
Dyma sy鈥檔 achosi鈥檙 adlewyrchiad yn yr echelin-\(x\).
Os yw \(f(x) = x^3\), yna mae \(f(-x) = (-x)^3\).
Mae hyn yn golygu y bydd pob un o鈥檙 cyfesurynnau \(x\) yn newid ei arwydd.
Felly byddai \(x = 1\) yn mynd yn \(x = -1\), a byddai \(x = -2\) yn mynd yn \(x = 2\) ac yn y blaen.
Dyma sy鈥檔 achosi鈥檙 adlewyrchiad yn yr echelin-\(y\).
Os yw \(f(x)\) yn mynd drwy鈥檙 pwynt \(\left(2, 4\right)\) yna beth yw鈥檙 pwynt cyfatebol yn y ffwythiannau canlynol?