Tonnau arhydol ac ardraws
Dirgryniadau sy'n trosglwyddo egni o le i le yw tonnau. Mae tonnau'n gallu bod yn arhydol neu'n ardraws.
Tonnau ardraws
Mewn tonnau ardraws, mae鈥檙 dirgryniadauCryndod ar ffurf tonnau bychain. ar ongl sgw芒r i gyfeiriad y teithio a鈥檙 trosglwyddiad egni.
1 of 3
Mae enghreifftiau o donnau ardraws yn cynnwys:
- pob math o donnau electromagnetig
- tonnau d诺r
- ton SMath o don seismig sy鈥檔 cael ei chynhyrchu wrth i鈥檙 Ddaear symud ar raddfa fawr, ee mewn daeargrynfeydd. Tonnau ardraws ydyn nhw - mae eu dirgryniadau'n digwydd ar 90 gradd i鈥檙 cyfeiriad y mae鈥檙 tonnau鈥檔 teithio. Mae tonnau S yn teithio drwy solidau ond nid hylifau. seismig
Tonnau arhydol
Mewn tonnau arhydol mae鈥檙 dirgryniadau yn mynd yn yr un cyfeiriad 芒鈥檙 cyfeiriad teithio a鈥檙 trosglwyddiad egni. Mae tonnau arhydol yn dangos mannau o cywasgiadArdal o wasgedd. Mewn tonnau arhydol, mae鈥檙 gronynnau mewn ardaloedd o gywasgedd yn nes at ei gilydd na鈥檙 arfer. a teneuadArdal o wasgedd is. Mewn tonnau arhydol, mae鈥檙 gronynnau mewn ardaloedd o deneuad ymhellach oddi wrth ei gilydd nag y mae'r gronynnau ar gyfartaledd.. Edrycha sut mae鈥檙 cywasgiad yn digwydd yn y mannau ble mae rhannau鈥檙 sbring yn agos at ei gilydd. Mae teneuad yn digwydd pan mae鈥檙 rhannau ymhell oddi wrth ei gilydd.
1 of 3
Mae enghreifftiau o donnau arhydol yn cynnwys:
- tonnau sain
- ton PMath o don seismig sy鈥檔 cael ei chreu yn ystod symudiadau daear ar raddfa fawr, ee daeargrynfeydd. Maen nhw鈥檔 donnau arhydol - mae eu dirgryniadau yn digwydd yn yr un cyfeiriad ag y mae鈥檙 tonnau鈥檔 teithio. Mae tonnau P yn teithio drwy hylifau a solidau. seismig