Adlewyrchiad a phlygiant
Adlewyrchiad
Mae tonnau'n adlewyrchu oddi ar arwynebau. Mae'r ongl drawiadYr ongl rhwng y llinell normal a鈥檙 pelydryn trawol. yn hafal i'r ongl adlewyrchiadYr ongl rhwng y pelydryn adlewyrchol a'r llinell normal (y llinell ddychmygol sy鈥檔 cael ei thynnu ar 90 gradd i鈥檙 arwyneb sy鈥檔 adlewyrchu).. Dyma'r ddeddf adlewyrchu. Felly, os yw ton yn taro drych ar ongl o 36掳, bydd hi'n cael ei hadlewyrchu ar yr un ongl (36掳).
Mae pelydryn golau trawol yn taro drych pl芒n ar ongl ac mae鈥檔 cael ei adlewyrchu yn 么l oddi arno. Mae鈥檙 ongl adlewyrchiad yn hafal i鈥檙 ongl drawiad. Mae鈥檙 ddwy ongl yn cael eu mesur o鈥檙 normal. Y normal ydy llinell ddychmygol ar ongl sgw芒r i鈥檙 drych pl芒n.
Gwna'n si诺r dy fod ti'n gallu labelu'r normal, yr ongl drawiad a'r ongl adlewyrchiad ar ddiagram o adlewyrchiad.
Plygiant
Mae tonnau sain a thonnau golau yn newid buanedd wrth iddyn nhw groesi鈥檙 ffin rhwng dau sylwedd sydd 芒 gwahanol ddwysedd, megis aer a gwydr. Mae hyn yn achosi iddyn nhw newid cyfeiriad. Plygiant yw鈥檙 enw ar yr effaith hon.
Mae tonnau d诺r yn plygu wrth deithio o dd诺r dwfn i dd诺r bas (neu i'r gwrthwyneb).
Pam mae plygiant yn digwydd?
Mae plygiant yn digwydd oherwydd bod buanedd y don yn newid.
Mae golau'n teithio'n arafach (o gymharu 芒'i fuanedd mewn aer) mewn defnyddiau mwy dwys fel gwydr. Bydd y donfedd hefyd yn lleihau er mwyn cadw'r amledd yn gyson.
Mae tonnau d诺r yn teithio'n arafach mewn d诺r bas. Bydd y donfedd yn lleihau er mwyn cadw'r amledd yn gyson.
Mae newidiadau i donfedd mewn cyfranneddPan fydd rhywbeth yn cyfateb i faint neu nifer penodol, ee mae rhywbeth sydd mewn cyfranedd union 芒 rhywbeth yn cynyddu neu ostwng ar yr un gyfradd. 芒 newidiadau i fuanedd tonnau. Dydy'r amledd ddim yn newid.
Sylwa, dydy plygiant ddim yn digwydd os yw'r tonnau'n croesi'r ffin ar ongl o 90掳 (sef y normal) 鈥 yn yr achos hwn, maent yn mynd yn syth ymlaen.
Pan mae golau鈥檔 pasio o aer i flociau hanner crwn o bersbecs, dyma beth rydyn ni鈥檔 gweld.
1 of 3
Os yw'r ongl drawiad yn ddigon mawr, fydd y golau ddim yn dianc o'r bloc 鈥 caiff ei adlewyrchu'n fewnol yn gyflawn. Galli di ddysgu mwy am hyn yn y canllaw Adlewyrchiad mewnol cyflawn.