Crynodeb o鈥檙 asesiad
Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn i鈥檞 hysgrifennu. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o鈥檙 ddau. Gall y dasg fod naill ai鈥檔 dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.
Mae鈥檙 papur (uned dau) werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y darllen
- 40 marc ar gyfer yr ysgrifennu
Bydd y canllaw hwn yn canolbwyntio ar yr uned ysgrifennu, sef:
- 35 marc am ysgrifennu estynedig
- 20 marc am gyfathrebu a threfn
- 15 marc am ysgrifennu鈥檔 gywir
Bydd un dasg brawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu鈥檔 gywir yn uned dau yn ogystal.
Disgrifio
Beth yw testun disgrifiadol?
- Testun sy鈥檔 disgrifio neu鈥檔 cyflwyno gwybodaeth am bwnc, lleoliad, gwrthrych, person ac ati.
- Mae鈥檔 creu cymeriad neu leoliad dychmygol neu real.
- Nod darn disgrifiadol yw creu awyrgylch a naws.
- Gellir defnyddio ystod o nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, cymariaethau, trosiadau a phersonoli.
- Does dim angen mynegi barn na chynnig esboniad (fel arfer).
Mathau o ysgrifennu disgrifiadol sy鈥檔 bosibl:
Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu鈥檔 ddisgrifiadol:
- ffurf - ym mha ffurf wyt ti'n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
- cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti'n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
- pwrpas 鈥 pam wyt ti'n ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
- arddull 鈥 sut wyt ti'n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, anffurfiol ayyb)?