大象传媒

Ofn gan Hywel GriffithsTrafod y gerdd

Mae Hywel Griffiths yn s么n am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a鈥檜 herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn 鈥渄diogel鈥 yn eu cartrefi.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Trafod y gerdd

Naws digon a thywyll sydd yn rhan gyntaf y gerdd gyda鈥檙 defnydd o eiriau negyddol fel tywyllwch, cysgodion, du a nos. Rhestru sefyllfaoedd ofnus y mae鈥檙 bardd, Hywel Griffiths, ar ddechrau鈥檙 gerdd er mwyn creu鈥檙 ymdeimlad o ofn a phanig. Gyda throsiad effeithiol y llinell gyntaf, Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd, mae鈥檔 creu awyrgylch o anwybodaeth ac amheuaeth. Mae p诺er tywyll yn ddelwedd flaenllaw yn yr wythawd agoriadol. Trwy鈥檙 gair sgrin rydym yn cael ein hatgoffa o b诺er y ac yn cael ein hannog i gwestiynu pa mor ddibynadwy yw鈥檙 wybodaeth sy鈥檔 ein cyrraedd o hyd.

Mae鈥檙 bardd yn credu bod ofn ymosodiad terfysgol yn ein caethiwo i鈥檔 cartrefi. Yn y cyferbyniad pan fo pob ffrind yn sinistr a blin cawn ein am nad ydym bellach yn troi at ein cyfeillion, hyd yn oed. Rydym yn cloi鈥檙 drws ac yn cau鈥檙 llenni er mwyn diogelu ein hunain rhag perygl y byd tu allan.

Daw trobwynt y gerdd yn y volta, sef y llinell anweladwy rhwng llinell wyth a naw. Mae鈥檙 naws yn newid yn llwyr wrth i ddelweddau du y rhan gyntaf gael eu gan oleuni a gobaith. Trwy gyfrwng y berfau gorchmynnol diffoddwch, agorwch a chofleidiwch mae鈥檙 bardd yn arnom i herio鈥檙 drefn a diffodd y teledu neu鈥檙 cyfrifiadur ac agor y llenni i weld beth sy鈥檔 digwydd y tu allan. Mae鈥檙 gorchymyn agorwch lenni鈥檙 lolfa led y pen yn ein hannog i edrych ar y byd a pheidio derbyn popeth yn ddi-gwestiwn. Yn y gyffelybiaeth fel cyllell wen mae Hywel Griffiths yn gofyn i ni dorri hualau鈥檙 ofnau sydd yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.

Mae鈥檙 ffaith fod y gyllell yn un wen yn pwysleisio awydd y bardd am ryddid a heddwch.

Set deledu yn dangos rhaglen newyddion, gyda'r pennawd "Diffoddwch y teledu am y tro!" ar y sgr卯n.