Mwy am ddatrys anhafaleddau
Os ydy \(-{x}={4}\), yna fe wyddon ni fod \({x}=-{4}\), drwy luosi'r ddwy ochr 芒 \({-1}\).
Dydy pethau ddim mor syml gydag anhafaliadau. Ystyria hyn:
\(-{3}\textless{4}\) = Cywir
Lluosi pob ochr 芒 \({-1}\):
\({3}\textless-{4}\) = Anghywir
Mae lluosi 芒 rhif negyddol yn newid cyfeiriad yr anhafaledd, felly:
\({3}\textgreater-{4}\) = Cywir
Datrysa: \({3}-{2x}\textgreater{11}\)
Tynna \({3}\) oddi wrth bob ochr: \(-{2x}\textgreater{11}-{3}\)
Felly: \(-{2x}\textgreater{8}\)
Rhanna bob ochr 芒 \({-2}\) (rhannu 芒 rhif negyddol, felly rhaid newid cyfeiriad yr anhafaledd)
\({x}\textless-{4}\)
Gallwn ni wirio hwn trwy ddewis rhif llai na \({-4}\) (ee \({-5}\)) a gweld os ydy鈥檙 anhafaledd gwreiddiol yn gywir:
\({3}-{2x}{(-{5})}={3}+{10}={13}\) ac mae hyn yn fwy nag \({11}\).
Question
Datrysa:
\({5}-{3x}\textless{17}\)
Tynna \({5}\) oddi wrth bob ochr i gael \(-{3x}\textless{12}\). Rhanna bob ochr 芒 \({-3}\), felly \({x}\textgreater{-4}\)
Question
Datrysa:
\({2x}-{8}\leq{6x}+{12}\)
Adia \({8}\) at bob ochr i gael \({2x}\leq{6x} +{20}\). Yna tynna \({6x}\) oddi wrth bob ochr i gael \(-{4x}\leq{20}\) ac felly \({x}\geq{5}\).