大象传媒

Y Sbectol Hud gan Mererid HopwoodMesur

Ymuna gyda Mererid Hopwood wrth iddi roi cipolwg i ni ar y byd drwy ffenest dychymyg. Mae鈥檔 ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg i weld y byd drwy b芒r o lygaid newydd, neu 鈥榮bectol hud鈥.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur

Er bod y gerdd yn ymddangos fel dau bennill ar wah芒n ar yr olwg gyntaf, soned yw hi.

Beth yw soned?

Cerdd 14 llinell, wedi鈥檌 rhannu鈥檔 wythawd (yr wyth llinell gyntaf) a chwechawd (y chwe llinell olaf). Rhwng yr wythawd ar chwechawd, daw newid yng nghyfeiriad meddwl y bardd. Yr enw ar hyn yw volta. Mae鈥檙 odlau鈥檔 dilyn y patrwm a b a b c ch c ch d dd d dd ee sef llinellau鈥檔 sy鈥檔 odli bob yn ail gyda chwpled clo ar y diwedd. Soned Shakespearaidd yw鈥檙 enw ar y math yma o soned.

Yn y soned hon mae鈥檙 bardd wedi penderfynu gadael gofod amlwg rhwng yr wythawd a鈥檙 chwechawd er mwyn tynnu sylw at y newid hwn. Yn yr wythawd cawn ddarluniau disgrifiadol hyfryd lle mae鈥檙 bardd yn rhannu ei phrofiadau ei hun o ddefnyddio鈥檌 dychymyg wrth edrych ar y byd. Yn y chwechawd mae hi鈥檔 ein perswadio ni i wneud yr un fath ac yn ein sicrhau bod y gallu gan bawb ohonon ni i weld pethau mewn gwahanol ffyrdd.