大象传媒

Y Sbectol Hud gan Mererid HopwoodIaith ac arddull

Ymuna gyda Mererid Hopwood wrth iddi roi cipolwg i ni ar y byd drwy ffenest dychymyg. Mae鈥檔 ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg i weld y byd drwy b芒r o lygaid newydd, neu 鈥榮bectol hud鈥.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Iaith ac arddull

Mae iaith y soned hon yn syml a hyfryd, sy鈥檔 gwrthgyferbynnu 芒鈥檙 gamp o lunio cerdd sy鈥檔 dilyn rheolau mor bendant, er enghraifft cwato, sbecs, ym mhoced 么l dy j卯ns.

Trosiad

sbectol hud

Mae鈥檙 sbectol hud yn y gerdd ac yn y teitl yn drosiad i ddisgrifio鈥檙 dychymyg, sy鈥檔 arf i roi gwedd newydd ar bopeth ac yn ein helpu i weld yn well ac i ddisgrifio鈥檔 fanylach.

niwl yn gwisgo鈥檙 bryniau

Gwisg yw鈥檙 niwl sy鈥檔 ddigon trwchus i guddio鈥檙 dirwedd fel mae dillad yn cuddio鈥檙 corff yn effeithiol rhag i neb weld y noethni oddi tanodd.

Cyffelybiaeth

a鈥檙 machlud fel y wawr

Mae hyn yn effeithiol oherwydd bod machlud a gwawr yn hollol wrthgyferbyniol, sef nos a dydd. Ond pan fo鈥檙 haul wedi suddo mor isel i鈥檙 gorwel fel na ellir gwahaniaethu rhwng y ddau gyfnod, mae鈥檔 bryd i ni ddefnyddio ein dychymyg.

Personoli

y blodau trist yn crio鈥檙 glaw

Disgrifiad syml ond effeithiol yn darlunio鈥檙 blodau gyda eu pennau i lawr dan bwysau glaw ar ddiwrnod diflas. Mae emosiwn dynol i flodyn yn ein tynnu ni鈥檙 darllenwyr i mewn i fyd natur ac mae natur hefyd yn cydymdeimlo gyda ninnau pan fo鈥檙 tywydd yn wlyb a digalon.

Ansoddeiriau

Mae鈥檙 ansoddeiriau鈥檔 syml ac yn unsill, ac yn cyfrannu at naws y gerdd ac at ei hystyr, sef nad yw defnyddio鈥檙 dychymyg yn anodd ychwaith.

trist

Gall pawb uniaethu 芒鈥檙 teimlad hwn ac mae鈥檙 berthynas agos y mae modd i ni ei chael gyda natur, drwy briodoli emosiynau dynol i flodau, yn cael ei phwysleisio.

hud

Yn rhan o deitl y gerdd ac o鈥檙 trosiad sy鈥檔 cynnal yr holl ddelwedd o鈥檙 dychymyg fel sbectol arbennig, mae 'hu' yn odli ac yn cyferbynnu gyda byd yn y chwechawd sef y realiti rydym i gyd yn rhan ohono. Gallwn ddianc rhag y byd bob dydd a bod yn fwy effro i鈥檞 ryfeddodau os defnyddiwn sbectol hud ein dychymyg.

Iaith berswadiol

rho, Ti鈥檔 gweld, gwisga, mentra

Mae鈥檙 gyfres o orchmynion yn cael eu rhestru yma er mwyn ein perswadio ninnau i ddefnyddio ein dychymyg ond gan fod y gorchmynion yn yr ail berson (鈥榯i鈥) maent yn gyfeillgar a chefnogol. Nid ydym yn teimlo ein bod ni'n cael ein gorfodi.