Pictogramau
Darllen pictogramau
Mae鈥檙 pictogram hwn yn dangos nifer y pitsas a gafodd eu bwyta gan bedwar ffrind yn ystod y mis diwethaf:
Mae鈥檙 allwedd yn dweud wrthot ti fod un pitsa yn y pictogram yn cynrychioli \({4}\) pitsa wedi ei fwyta, felly mae Alun wedi bwyta \({4}+{2}={6}\) pitsa.
Question
Pwy wnaeth fwyta鈥檙 nifer mwyaf o bitsas?
Carwyn wnaeth fwyta鈥檙 nifer mwyaf o bitsas.
Question
Sawl pitsa wnaeth Bedwyr eu bwyta?
Bwytaodd Bedwyr \({9}\) pitsa. Cofia fod pob pitsa yn y pictogram yn cynrychioli \({4}\) pitsa, felly mae \(\frac{1}{4}\) cylch yn cynrychioli \({1}\) pitsa.
Question
Beth oedd cyfanswm nifer y pitsas a gafodd eu bwyta gan y pedwar?
Mae cyfanswm o \({11}\frac{1}{2}\) cylch yn y pictogram. Mae un cylch yn cynrychioli \({4}\) pitsa, felly \({11}\frac{1}{2}\times{4} = {46}\) pitsa.