大象传媒

Cynrychioli dataCreu siart cylch

Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Creu siart cylch

Creu siartiau cylch 鈥 defnyddio tabl

Mae鈥檙 tabl isod yn dangos y marciau a enillwyd gan \({30}\) o ddisgyblion yn eu harholiad diwedd tymor.

Tabl yn dangos y marciau a enillwyd gan 30 o ddisgyblion mewn arholiad

I ddangos y wybodaeth hon mewn siart cylch, cymera鈥檙 camau canlynol:

  1. Cyfrifa gyfanswm nifer y disgyblion: \({7} + {11} + {6} + {4} + {2} = {30}\)
  2. I gyfrifo ongl pob segment, cyfrifa pa ffracsiwn o鈥檙 cyfanswm a gafodd bob marc.
  3. Dechreua gyda marciau A: \(\frac{7}{30}\)
  4. Mae \({360}^\circ\) mewn cylch llawn, felly i ganfod yr ongl, lluosa鈥檙 ffracsiwn 芒 \({360}:\frac{7}{30}\times{360} = {84}^\circ\)
  5. Mae gan sector marciau A ongl o \({84}^\circ\).
  6. Dilyna'r un broses i ganfod ongl segmentau鈥檙 marciau eraill.
  7. Unwaith y byddi di wedi cyfrifo onglau鈥檙 segmentau, cer ati i greu'r siart cylch.

Question

Cop茂a a chwblha鈥檙 tabl isod, wedyn defnyddia鈥檙 data i greu siart cylch.

MarcAmlderOngl
A\({7}\)\(\frac{7}{30}\times{360}={84}^\circ\)
B\({11}\)
C\({6}\)
D\({4}\)
E\({2}\)
MarcA
Amlder\({7}\)
Ongl\(\frac{7}{30}\times{360}={84}^\circ\)
MarcB
Amlder\({11}\)
Ongl
MarcC
Amlder\({6}\)
Ongl
MarcD
Amlder\({4}\)
Ongl
MarcE
Amlder\({2}\)
Ongl

More guides on this topic