大象传媒

Cynrychioli dataPlotio a darllen diagramau gwasgariad

Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Plotio a darllen diagramau gwasgariad

Darllen diagramau gwasgariad

Mae canlyniadau Cymraeg a mathemateg deg disgybl wedi eu dangos yn y tabl isod:

SaliKimWilTwmGutoAlexBegwCenAlanJo
Marc mathemateg\({20}\)\({71}\)\({60}\)\({52}\)\({80}\)\({32}\)\({47}\)\({90}\)\({49}\)\({80}\)
Marc Cymraeg\({30}\)\({80}\)\({65}\)\({50}\)\({81}\)\({38}\)\({40}\)\({87}\)\({55}\)\({70}\)
Marc mathemateg
Sali\({20}\)
Kim\({71}\)
Wil\({60}\)
Twm\({52}\)
Guto\({80}\)
Alex\({32}\)
Begw\({47}\)
Cen\({90}\)
Alan\({49}\)
Jo\({80}\)
Marc Cymraeg
Sali\({30}\)
Kim\({80}\)
Wil\({65}\)
Twm\({50}\)
Guto\({81}\)
Alex\({38}\)
Begw\({40}\)
Cen\({87}\)
Alan\({55}\)
Jo\({70}\)

I weld a oes cydberthyniad rhwng y marciau mathemateg a Chymraeg, gallet ti blotio diagram gwasgariad.

Mae鈥檙 marc mathemateg ar y raddfa lorweddol a鈥檙 marc Cymraeg cyfatebol ar y raddfa fertigol.

Marc mathemateg Wil oedd \({60}\) a鈥檌 farc Cymraeg oedd \({65}\), felly mae ei ganlyniadau wedi eu cynrychioli gan y pwynt porffor ar gyfesurynnau \(({60},~{65})\).

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 3, Diagram gwasgariad, Diagram gwasgariad enghreifftiol Mae鈥檙 diagram yn dangos marciau mathemateg a Chymraeg.

Question

Diagram gwasgariad

Yn y diagram gwasgariad uchod, marc pwy sydd wedi ei gynrychioli gan y groes borffor?

Mae'r diagramau isod yn dangos sut gelli di ddehongli cydberthyniad gan ddibynnu ar batrwm y gwasgariad.

Cydberthyniad positif

Mae鈥檙 pwyntiau鈥檔 gorwedd yn agos at linell syth, sydd ar raddiant positif.

Mae hyn yn dangos, wrth i un newidyn gynyddu, bod y llall yn cynyddu.

Cydberthyniad positif

Cydberthyniad negatif

Mae鈥檙 pwyntiau鈥檔 gorwedd yn agos at linell syth, sydd ar raddiant negatif.

Mae hyn yn dangos tra bod un newidyn yn cynyddu, y mae'r llall yn gostwng.

Cydberthyniad negatif

Dim cydberthyniad

Does dim patrwm i鈥檙 pwyntiau.

Mae hyn yn dangos nad oes cysylltiad rhwng y ddau newidyn.

Dim cydberthyniad

Question

Fyddet ti鈥檔 disgwyl cael cydberthyniad positif, cydberthyniad negatif, neu ddim cydberthyniad rhwng y parau o newidynnau canlynol:

a) Tymheredd a gwerthiant hufen i芒

b) Taldra a deallusrwydd

More guides on this topic