大象传媒

Cynrychioli dataYchwanegu llinell ffit orau at ddiagram gwasgariad

Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Ychwanegu llinell ffit orau at ddiagram gwasgariad

Llinell ffit orau

Enghraifft

Mae \({10}\) disgybl mewn ysgol yn astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU. Mae鈥檙 marciau gawson nhw mewn prawf diweddar wedi eu cofnodi yn y tabl isod:

EurigIfanAnwenLowriRhysLleucu厂颈么苍RhiannonRobinNia
Marc yn Ffrangeg\({42}\)\({62}\)\({32}\)\({78}\)\({70}\)\({18}\)\({68}\)\({52}\)\({84}\)\({38}\)
Marc yn Almaeneg\({48}\)\({56}\)\({24}\)\({68}\)\({?}\)\({22}\)\({76}\)\({54}\)\({89}\)\({39}\)
Marc yn Ffrangeg
Eurig\({42}\)
Ifan\({62}\)
Anwen\({32}\)
Lowri\({78}\)
Rhys\({70}\)
Lleucu\({18}\)
厂颈么苍\({68}\)
Rhiannon\({52}\)
Robin\({84}\)
Nia\({38}\)
Marc yn Almaeneg
Eurig\({48}\)
Ifan\({56}\)
Anwen\({24}\)
Lowri\({68}\)
Rhys\({?}\)
Lleucu\({22}\)
厂颈么苍\({76}\)
Rhiannon\({54}\)
Robin\({89}\)
Nia\({39}\)

Gelli di lunio diagram gwasgariad i gynrychioli鈥檙 marciau hyn. Gan fod Rhys yn absennol ar ddiwrnod y prawf Almaeneg does gennyt ti ddim digon o wybodaeth i farcio ei sg么r.

Siart bar amlder

O edrych ar y diagram gwasgariad hwn mae cydberthyniad positif cryf rhwng y marciau Ffrangeg a鈥檙 marciau Almaeneg, felly gelli di dynnu llinell ffit orau i ddangos y duedd honno.

Cynrychioli data 鈥 Diagram gwasgariad

Sgoriodd Rhys \({70}\) yn Ffrangeg, felly gan ddefnyddio鈥檙 llinell ffit orau, gelli di amcangyfrif y buasai wedi cael \({72}\) yn Almaeneg.

Cynrychioli data 鈥 Diagram gwasgariad

Dim ond os oes cydberthyniad positif neu negatif cryf y gallwn ni dynnu llinell ffit orau.

Does dim rhaid i鈥檙 llinell ffit orau fynd drwy鈥檙 tarddbwynt.

Mae鈥檙 llinell ffit orau yn dangos y duedd, ond dim ond bras amcan ydy hi ac amcangyfrifon fydd unrhyw ddarlleniadau rwyt ti鈥檔 eu cymryd ohoni.

More guides on this topic