Buddsoddi
Buddsoddi yn dy gwmni
Un ffordd arall o gael arian ar gyfer dy fusnes yw cael buddsoddwr. Efallai dy fod wedi gweld rhaglen y ´óÏó´«Ã½, lle mae entrepreneuriaid yn cynnig eu syniadau busnes i fuddsoddwyr posib. Os yw’r buddsoddwyr yn hoffi’r syniad, maen nhw’n buddsoddi eu harian yn y busnes.
Yn gyfnewid am yr arian maen nhw’n ei fuddsoddi, fe fyddan nhw un ai’n cymryd siâr o’r busnes, neu incwm y cytunir arno o flaen llaw. Eu gobaith yw y bydd y busnes yn llwyddo fel eu bod yn cael yr arian wnaethon nhw ei fuddsoddi yn ôl ac, os yn bosib, ennill mwy o arian na wnaethon nhw ei fuddsoddi.
Gallet fod mewn sefyllfa lle rwyt ti’n fuddsoddwr dy hun a bod angen i ti ystyried yn ofalus a wyt ti’n meddwl y bydd y buddsoddiad yn ennill arian i ti ai peidio.
Enghraifft
Rwyt ti’n etifeddu £5,000 gan berthynas diweddar ac yn penderfynu buddsoddi dy arian yn y busnes canlynol. Mae Vintage for You yn gwmni sy’n gwerthu dillad ac ategolion ffasiwn o wahanol gyfnodau. Gwerth y cwmni yw £120,000 ac mae’n gobeithio gwneud elw netYr hyn sy'n weddill ar ôl talu'r holl gostau. o £25,000 ym mlwyddyn 1. Rhagwelir y bydd hwn yn cynyddu 10% y flwyddyn ganlynol. Rwyt wedi cael cynnig cyfran o 5% yn y busnes os byddi’n buddsoddi dy £5,000, sy’n golygu y bydd gen ti gyfran o 5% o’r elw. A fyddi di’n cael dy arian yn ôl o fewn y ddwy flynedd?
Ateb
Elw blwyddyn 1: £25,000.
Elw blwyddyn 2: 10% o £25,000 = £2,500.
£25,000 + £2,500= £27,500.
Cyfanswm yr elw = £25,000 + £27,500 = £52,500.
Dy gyfran di o’r elw yw 5%.
5% o £52,500.
5/100 × 52,500 = £2,625.
Na, ni fyddi’n cael y £5,000 wnes di ei fuddsoddi yn ôl o fewn y ddwy flynedd.
Question
Mae cystadleuydd ar Dragons’ Den wedi rhoi gwerth o £200,000 ar ei gwmni a buddsoddodd Draig A £20,000 am gyfran o 20%.
Mae’r cwmni’n gwneud £20,000 o elw ym Mlwyddyn 1, £35,000 ym Mlwyddyn 2 a £50,000 ym Mlwyddyn 3.
Faint o elw mae Draig A yn ei wneud ar ei fuddsoddiad ar ôl 3 blynedd?
Cyfanswm yr elw dros dair blynedd:
20,000 + 35,000 + 50,000 = £105,000.
Cyfran Draig A:
20% o £105,000.
\(\frac{20}{100}\) × £105,000 = £21,000.
£21,000 – £20,000 = £1,000.
Mae hyn yn golygu y byddai Draig A yn gwneud elw o £1,000 ar ei fuddsoddiad.