AER ac APR
Cyfradd ganrannol flynyddol (APR)
Mae’r gyfradd ganrannol flynyddol nid yn unig yn rhoi’r gyfradd llog ond mae hefyd yn ystyried unrhyw gostau sydd ynghlwm â’r benthyciad.
Mae APR yn ffigur sy’n cael ei roi ar gyfer pob morgais, benthyciad a cherdyn credyd ac mae’r banc yn defnyddio dull penodol i gyfrifo’r ffigur, fel y nodir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Mae’r APR cynrychiadol yn ffigur sy’n hawdd i’w gymharu rhwng gwahanol gyfrifon. Mae’r cyfrifiad ar gyfer APR yn ystyried yr holl ffïoedd a chostau sy’n rhaid i ti eu talu ar ben y gyfradd llog sylfaenol.
APR Cynrychiadol
Pan fydd cyfrifon yn cael eu hysbysebu, yr APR maen nhw’n ei ddefnyddio yw’r APR cynrychiadol. Nid yw’n golygu y bydd pawb yn siŵr o gael y gyfradd hon. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud gwiriadau credyd ar bob unigolyn ac yna penderfynu pwy sy’n gymwys i gael y gyfradd llog hon. Mae rheolau presennol yr UE yn nodi bod yn rhaid i o leiaf 51% o’r bobl sy’n gwneud cais amdano gael y gyfradd sy’n cael ei hysbysebu. Mae hyn yn golygu y gallai 49% o’r bobl gael cyfradd llog sy’n uwch na’r un sy’n cael ei hysbysebu.
APR Personol
Yr APR personol yw’r union gyfradd rwyt ti’n ei thalu unwaith y byddi wedi gwneud cais am y benthyciad a bod y cwmni credyd wedi asesu pa mor addas wyt ti ar ei chyfer. Gallai hwn fod yn wahanol iawn i’r APR cynrychiadol ac mae’n bwysig dy fod yn gwirio’r gyfradd maen nhw’n ei chynnig i ti.
Gyda morgais, mae’r APR cynrychiadol a’r APR personol yr un fath.
Question
Mae Gareth wedi gwneud cais am fenthyciad o £10,000 sydd ag APR cynrychiadol o 6%. Ar ôl gwneud cais i’r cwmni, maen nhw’n cynnig APR personol o 8.2% iddo. Faint yn fwy yw cost yr APR personol o’i gymharu â’r APR cynrychiadol?
APR cynrychiadol
6% o £10,000.
= \(\frac{6}{100}\) × 10,000.
= £600.
£10,000 + £600 = £10,600.
Y swm mae’n ei ad-dalu yw £10,600.
APR personol
8.2% o £10,000.
= \(\frac{8.2}{100}\) × 10,000.
= £820.
£10,000 + £820 = £10,820.
Y swm mae’n ei ad-dalu yw £10,820.
Felly, y gwahaniaeth rhwng y ddwy gyfradd yw:
£10,820 – £10,600 = £220.
Gelli hefyd ddefnyddio’r dull hwn, lle rwyt ti’n cychwyn trwy ganfod y gwahaniaeth rhwng y ddwy gyfradd llog:
8.2% - 6% = 2.2%
2.2% o 10,000 = \(\frac{2.2}{100}\) × 10,000
= £220
Cyfradd flynyddol gyfatebol (AER)
Mae’r gyfradd flynyddol gyfatebol (AER) yn cael ei defnyddio yn y DU fel cyfradd gyffredinol i gymharu cyfrifon cynilo’n unig. Mae’n debyg i adlogPan fydd llog ar fuddsoddiad yn cael ei gyfrifo a'i adio ato fel bod y taliad llog hwn yn ennill llog hefyd. oherwydd, y tro cyntaf mae’r llog yn cael ei gyfrifo, mae gwerth y llog yn cael ei gyfuno â’r swm gwreiddiol. Pan fydd y llog yn cael ei gyfrifo eto, mae’r swm newydd yn cael ei ddefnyddio.
Byddi’n ennill llog ar dy log sy’n golygu dy fod yn gwneud mwy o arian. Mae’r llog yn gallu cael ei adlogi nifer o weithiau mewn blwyddyn, gan ddibynnu ar ba mor aml mae’r banc yn cyfrifo’r llogau yn ystod y flwyddyn.
Dyma’r fformiwla i gyfrifo AER:
\({AER}~=~({1}~+~\frac {i} {n}){^n}~-~{1}\)
i yw’r gyfradd llog fel degolyn
n yw’r nifer o weithiau mae’r llog yn cael ei dalu drwy gydol un flwyddyn.
Mae’r fformiwla hon yn cael ei rhoi yn dy restr fformiwlâu yn yr arholiad.
Question
Mae cyfrif cynilo wedi dyfynnu cyfradd llog o 8% sy’n talu llog yn fisol. Cyfrifa AER y cyfrif hwn.
\({AER}~=~({1}~+~\frac {i} {n}){^n}~-~{1}\)
\({AER}~=~({1}~+~\frac {0.08} {12})^{12}~-~{1}\)
\({AER}~=~{0.08299950681}\)
I drawsnewid i ganran, lluosa â 100.
\({AER}~=~{8.299950681}\percent\)
\({AER}~=~{8.30}\percent\) i ddau le degol.