Y cymeriadau: Ellis Puw a Dorcas
Ellis Puw
Bachgen ag wyneb main ac edrychiad swil
ydy鈥檙 disgrifiad ohono ar y dechrau. Yn 么l Huw Morris, mae鈥檔 sgolor
gan ei fod wedi dod 芒 nifer o lyfrau gyda fe.
Mae鈥檔 awyddus i ddysgu darllen, ac mae Rowland Ellis yn cynnig ei helpu. Mae鈥檔 awgrymu鈥檔 gryf ei fod yn Grynwr oherwydd mae鈥檔 dyfynnu geiriau Morgan Llwyd, geiriau sy鈥檔 beryglus iawn
ym marn Rowland Ellis.
I greadur mor eiddil yr olwg, roedd ganddo fysedd cryfion ac ystwyth.
Defnyddia鈥檙 rhain i wella pobl yn gorfforol. Mae鈥檔 llwyddo i dawelu poenau Steffan. Hefyd mae鈥檔 llwyddo i leihau poenau Ifan Roberts yn y carchar.
Mae Ellis Puw yn 诺r ifanc doeth iawn, ac nid ydy yn uchel ei gloch. Doeth pob tawgar
yn 么l Jane Owen.
Mae鈥檔 meddwl am eraill bob tro. Pan mae鈥檔 clywed am farwolaeth Ifan Roberts, mae鈥檔 mynd yn syth i weld ei wraig, a鈥檌 galon yn gwaedu drosti a鈥檌 naw plentyn.
Mae Sinai Roberts yn dweud amdano, Rwyt ti fel t诺r cadarn imi.
Mae ganddo deimladau tuag at Dorcas. Pan mae鈥檔 clywed mai Lisa fyddai鈥檔 dod yn forwyn i Frynmawr yn lle Dorcas, aeth gwefr o siomiant dros Ellis Puw.
Mae鈥檙 gwahaniaeth rhyngddo 芒 Huw Morris yn fawr, ac mae Dorcas yn dweud amdano, Ellis a oedd mor syml, mor ddifeddwl drwg, mor l芒n, mor dyner.
Mae aeddfedrwydd yn rhan bwysig o gymeriad Ellis Puw. Mae hyn yn dod yn amlwg wedi marwolaeth Dorcas. Mae鈥檔 cadw鈥檌 deimladau iddo鈥檌 hun: Ac eto roedd yna ryw lonyddwch newydd, dyfnach yn perthyn iddo, ac am y tro cyntaf erioed, teimlai鈥檙 meistr fod y gwas yn h欧n nag ef.
Gweithred anhunanol gan Ellis Puw ydy cynnig priodi Sinai Roberts. Mae鈥檔 gwneud hyn gan mai dyma鈥檙 ffordd fwyaf ymarferol o helpu鈥檙 teulu sy鈥檔 golygu gymaint iddo.
Dorcas
Cariad Ellis Puw a merch hynaf Ifan a Sinai Roberts. Hi ydy鈥檙 un sy鈥檔 cadw trefn ar ei theulu yn y Brithdir, ac yn arbennig yn edrych ar 么l ei brawd, Steffan. Pymtheg oed oedd Dorcas, ond edrychai鈥檔 ddeg ar hugain heno.
Enghraifft o鈥檌 charedigrwydd oedd ei bod wedi rhoi鈥檙 pecyn dillad a rhubanau i鈥檞 chwaer.
Yn ystod y nofel, mae perthynas rhyngddi hi ac Ellis Puw yn datblygu ac mae hi鈥檔 cytuno i鈥檞 briodi. Mae gwahaniaeth mawr rhyngddi hi a鈥檌 chwaer, Lisa. Mae Lisa鈥檔 sylwi ar hyn wrth i鈥檙 ddwy sgwrsio: Mi rydw i鈥檔 hen sguthan weithiau, ac rwyt ti mor dda. Rydan ni wedi ein gwneud yn wahanol iawn i鈥檔 gilydd.
Mae Dorcas yn gyndyn i wisgo ffrog Lisa wedi iddi gerdded drwy鈥檙 glaw, ac mae鈥檙 cwnstabliaid yn camgymryd hyn i fod yn arwydd ei bod hi鈥檔 ferch fyddai鈥檔 rhoi amser da iddyn nhw.
Mae yna ddewrder arbennig yn perthyn iddi. Mae hi鈥檔 barod i gael ei charcharu dros ei chred, ac yn barod i gefnogi Ellis Puw. Roedd hi鈥檔 barod yn awr i wynebu unrhyw beth.
Mae鈥檔 cael ei chamgymryd am wrach, ac mae鈥檔 cael ei boddi gan adael Ellis Puw ar ei ben ei hun.